Foltmedr
![]() | |
Math | electrical measuring instrument ![]() |
---|---|
![]() |

Offeryn a ddefnyddir i fesur gwahaniaeth potensial trydan rhwng dau bwynt mewn cylched drydanol yw foltmedr. Mae foltmedrau analog yn symud pwyntyddion dros raddfa mewn cyfrannedd â foltedd y gylched; mae foltmedrau digidol yn rhoi dangosiad rhifol y foltedd gan ddefnyddio trawsnewidydd analog i ddigidol. Cysylltir foltmedr ar draws cydran mewn paralel ac nid mewn cyfres.