France 24
Delwedd:France 24 logo (2013).svg, France24.png | |
Enghraifft o: | gorsaf deledu, sianel deledu thematig, cyfryngau dan ofal y wladwriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 6 Rhagfyr 2006 |
Perchennog | France Médias Monde |
Rhiant sefydliad | France Médias Monde |
Pencadlys | Issy-les-Moulineaux |
Enw brodorol | France 24 |
Gwefan | https://www.france24.com/fr/, https://www.france24.com/en/, https://www.france24.com/es/, https://www.france24.com/ar/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sianel teledu newyddion rhyngwladol Ffrengig yw France 24 (sef France vingt-quatre) sy'n darlledu mewn tair iaith (Ffrangeg, Arabeg a Saesneg) 24 awr y dydd bob dydd o'r wythnos. Lleolir ei bencadlys yn Issy-les-Moulineaux.
Lawnswyd France 24 ar 6 Rhagfyr 2006. Prif gystadleuwyr y sianel yw CNN (UDA), BBC World (DU), Euronews (traws-Ewropeaidd), Deutsche Welle (yr Almaen) ac Al Jazeera (Qatar). Mae wedi cael ei alw "y CNN Ffrengig", chwedl Renaud Donnedieu de Vabres, cyn Weinidog Diwylliant Ffrainc.
Er 2008 mae'r sianel yn perthyn 100% i'r sefydliad cyfryngau cyhoeddus Ffrengig, y Société de l'audiovisuel extérieur de la France, a gymrodd drosodd randdaliadau y cwmnïau darlledu France Télévisions a TF1, a sefydlodd y sianel yn wreiddiol fel menter ar y cyd.
Mae'n darlledu trwy sawl cyfrwng ddigidol, yn cynnwys sawl gwasanaeth teledu lloeren, teledu cêbl, ac ar y rhyngrwyd hefyd trwy ei wefan.
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Gwefan France 24 (Arabeg) (Ffrangeg) (Saesneg)