Gareth Edwards (cyfarwyddwr)
Gareth Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1975 Nuneaton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwneuthurwr ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, sinematograffydd |
Cyfarwyddwr ffilm Cymreig a anwyd yn Nuneaton, Lloegr ydy Gareth Edwards (ganwyd 1 Mehefin 1975). Mae hefyd yn sgriptiwr, technegydd graffeg gweledol ac yn gynhyrchydd sy'n nodedig am y fersiwn ddiweddaraf o Godzilla 2014 a Rogue One: A Star Wars Story (2016), y gyntaf o gyfres atholegol Star Wars.[1][2] Mae ei rieni o ardal Pont-y-pŵl, Cymru ac mae llawer o'i deulu'n dal i fyw yno.
Magwraeth
Ganwyd Gareth Edwards ar 1 Mehefin 1975 yn Nuneaton, Swydd Warwick i deulu o Dde Cymru.[3] Bu'n ddisgybl yn Higham Lane School. Rhoddodd ei fryd ar gynhyrchu ffilmiau ers oedd yn blentyn, a'i hoffter o'r gyfres ffilm Star Wars oedd yn gyfrifol am hynny.[4] Mae ei dad o Bont-y-pŵl a'i fam o Frynbuga.
Prifysgol
Cwbwlhaodd radd BA mewn ffilm a fideo ym Mhrifysgol Farnham yn 1996 a derbyniodd radd Meistr Anrhydeddus gan Brifysgol Surrey yn 2012.[5]
Gwaith
Bu'n gyfrifol am wneud llawer o waith technegol, cyfrifiadurol at ddwy ffilm: Nova, Perfect Disaster ac Heroes and Villains a chanmolwyd yr ail ffilm yn rhyngwladol; ef oedd yn gyfrifol am dros 250 o'r effeithiadau hyn. Yn 2008 enillodd sialens Sci-Fi-London 48-hour film challenge, gan greu mwfi o fewn dau ddiwrnod. Yn dilyn ei lwyddiant, gwahodwyd Gareth i sgwennu a chynhyrchu'r ffilm Monsters, ac ef hefyd a greodd yr effeithiadau arbennig at ei chyfer.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ Clarke, Cath (23 Medi 2010). "First sight: Gareth Edwards". The Guardian. Cyrchwyd 4 Ionawr 2011.
- ↑ Davis, Laura (2 December 2010). "Interview with Gareth Edwards, the Director of 'Monsters'". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-11. Cyrchwyd 4 Ionawr2011. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Godzilla and Star Wars director Gareth Edwards". Wales Online. 27 Mai 2014. Cyrchwyd 27 Mai 2014.
- ↑ Hopkins, Jessica (27 Chwefror 2011). "The film that changed my life: Gareth Edwards". The Observer. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2011.
- ↑ "UCA - News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-19. Cyrchwyd 2017-01-07.
- ↑ Rose, Steve (27 Tachwedd 2010). "Monsters: the bedroom blockbuster that's the anti-Avatar". The Guardian. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2011.