Gary Brooker
Gary Brooker | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1945 Homerton University Hospital |
Bu farw | 19 Chwefror 2022 o canser Surrey |
Label recordio | Mercury Records, Chrysalis Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | pianydd, canwr-gyfansoddwr, cerddor |
Adnabyddus am | A Whiter Shade of Pale |
Arddull | cerddoriaeth roc caled, roc blaengar, baroque pop, roc a rôl, jazz |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | http://www.procolharum.com/procolgb.htm |
Canwr-gyfansoddwr a pianydd o Loegr oedd Gary Brooker MBE (29 Mai 1945 – 19 Chwefror 2022), yn fwy adnabyddus fel sylfaenydd a phrif leisydd y band Procol Harum .
Cafodd Brooker ei eni yn Ysbyty Hackney, Dwyrain Llundain [1] , yn fab y cerddor Harry Brooker. Cafodd ei fagu yn Hackney, Bush Hill Park ac Edmonton. [2] Ym 1954 symudodd y teulu i dref glan môr Southend-on-Sea, Essex, lle mynychodd Brooker Ysgol Uwchradd Westcliff i Fechgyn . [3] Bu farw ei dad o drawiad ar y galon pan oedd Gary yn 11 oed.[4] Ar ôl gadael yr ysgol, aeth ymlaen i Goleg Bwrdeistrefol Southend i astudio sŵoleg a botaneg. Gyda'i ffrind, y gitarydd Robin Trower, sefydlodd Brooker y Paramounts ym 1962.
Ym mis Gorffennaf 1968, priododd Brooker â Françoise Riedo ("Franky") o'r Swistir. Nid oedd gan y cwpl unrhyw blant.[5]
Bu farw Brooker o ganser yn ei gartref yn Surrey, yn 76 oed. [6]
Cyfeiriadau
- ↑ "Gary Brooker, MBE". Procol Harum. Cyrchwyd 7 May 2016.
- ↑ Scott-Irvine 2012.
- ↑ Johansen 2000.
- ↑ Wright, John (24 Ionawr 2016). "Gary Brooker: 'Whiter Shade of Pale legal battle probably cost me £1m in fees alone'". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mai 2017.
- ↑ "The 'blushing bride' gets a whiter shade of pale". Sunday Mirror (yn Saesneg). Llundain. 14 Gorffennaf 1968. Cyrchwyd 26 Mai 2017.
- ↑ Pareles, Jon (23 Chwefror 2022). "Gary Brooker, Singer for Procol Harum, Dies at 76". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Chwefror 2022.