Mewn anatomeg ddynol, gynecoleg (neu geinecoleg) ydy'r astudiaeth o iechyd system atgenhedlu benyw: yr iwterws, fagina ac ofaris. Ystyr y gair Groeg ydy "gwyddoniaeth merched". Geinecolegydd ydy person sy'n arbenigo mewn geinecoleg. Mae bron pob geinecolegydd hefyd yn obstetrician (sy'n arbenigo mewn beichiogrwydd) a'r geni ei hun yn ogystal â'r organau rhyw benywaidd.
Afiechydon
Mae sawl afiechyd sy'n cymryd llawer iawn o amser y geinecolegydd:
Cancr ac afiechydon cyn-gancraidd yr organau rhyw, gan gynnwys yr ofaris, y tiwbiau ffalopaidd, yr iweterws, y wain (fagina), a cheg y groth