Gemau'r Gymanwlad 2002
Enghraifft o'r canlynol | edition of the Commonwealth Games |
---|---|
Dyddiad | 2002 |
Dechreuwyd | 25 Gorffennaf 2002 |
Daeth i ben | 4 Awst 2002 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Manceinion |
Yn cynnwys | badminton at the 2002 Commonwealth Games |
Rhanbarth | Dinas Manceinion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
17eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 25 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 4 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].
Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.
Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nawrw yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.
Casglodd Sant Kitts-Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan enillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Caiman a Sant Lwsia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Caiman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i Sant Lwsia.
Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]
Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]
Chwaraeon
Timau yn cystadlu
Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002
|
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 82 | 62 | 63 | 207 |
2 | Lloegr | 54 | 52 | 60 | 166 |
3 | Canada | 31 | 41 | 46 | 118 |
4 | India India | 30 | 22 | 17 | 69 |
5 | Seland Newydd | 11 | 13 | 21 | 45 |
6 | De Affrica | 9 | 20 | 17 | 46 |
7 | Camerŵn | 9 | 1 | 2 | 12 |
8 | Maleisia | 7 | 6 | 18 | 34 |
9 | Cymru | 6 | 13 | 12 | 31 |
10 | Yr Alban | 6 | 8 | 16 | 30 |
11 | Nigeria | 5 | 3 | 12 | 20 |
12 | Cenia | 4 | 8 | 4 | 16 |
13 | Jamaica | 4 | 6 | 7 | 17 |
14 | Singapôr | 4 | 2 | 7 | 13 |
15 | Bahamas | 4 | 0 | 4 | 8 |
16 | Nawrw | 2 | 5 | 8 | 15 |
17 | Gogledd Iwerddon | 2 | 2 | 1 | 5 |
18 | Cyprus | 2 | 1 | 1 | 4 |
19 | Pacistan | 1 | 3 | 4 | 8 |
20 | Ffiji | 1 | 1 | 1 | 3 |
20 | Sambia | 1 | 1 | 1 | 3 |
22 | Simbabwe | 1 | 1 | 0 | 2 |
23 | Namibia | 1 | 0 | 4 | 5 |
24 | Tansanïa | 1 | 0 | 1 | 2 |
25 | Bangladesh | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | Gaiana | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | Mosambic | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | Sant Kitts-Nevis | 1 | 0 | 0 | 1 |
29 | Botswana | 0 | 2 | 1 | 3 |
30 | Wganda | 0 | 2 | 0 | 2 |
31 | Samoa | 0 | 1 | 2 | 3 |
32 | Trinidad a Tobago | 0 | 1 | 0 | 1 |
33 | Barbados | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Ynysoedd Caiman | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Ghana | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Lesotho | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Malta | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Mawrisiws | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Sant Lwsia | 0 | 0 | 1 | 1 |
Cyfanswm | 282 | 280 | 336 | 898 |
Medalau'r Cymry
Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Nicole Cooke | Beicio | Ras lôn |
Aur | Jamie Arthur | Bocsio | 60 kg |
Aur | David Morgan | Codi Pwysau | 77 kg (Cyfuniad) |
Aur | David Morgan | Codi Pwysau | 77 kg (Pont a hwb) |
Aur | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 56 kg (Cipiad) |
Aur | Ceri Dallimore a Johanne Brekke |
Saethu | Parau Reiffl 50m Tra'n Gorwedd |
Arian | Colin Jackson | Athletau | 110m dros y clwydi |
Arian | Matt Elias | Athletau | 400m dros y clwydi |
Arian | Hayley Tullett | Athletau | 1500m |
Arian | Iwan Thomas Jamie Baulch Tim Benjamin a Matt Elias |
Athletau | 4x400m |
Arian | Huw Pritchard | Beicio | Ras scratch 20 km |
Arian | John Gronow Derek Dowling a Kevin George Woolmore |
Bowlio Lawnt | Triawd gydag anabledd corfforol |
Arian | David Morgan | Codi Pwysau | 77 kg (Cipiad) |
Arian | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 56 kg (Cyfuniad) |
Arian | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 56 kg (Pont a hwb) |
Arian | Jo Melen | Jiwdo | o dan 78 kg |
Arian | Angharad Sweet | Jiwdo | dros 78 kg |
Arian | Ryan Jenkins ac Adam Robertson |
Tenis Bwrdd | Dyblau'r dynion |
Arian | Leanda Cave | Triathlon | Merched |
Efydd | Richard Vaughan | Badminton | Senglau'r dynion |
Efydd | Kevin Evans | Bocsio | dros 91 kg |
Efydd | Anwen Butten ac Joanna Weale |
Bowlio Lawnt | Parau |
Efydd | Robert Weale | Bowlio Lawnt | Senglau |
Efydd | Jason Greenslade David Wilkins Richard Bowen ac Ian Slade |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd dynion |
Efydd | Ann Sutherland Gillian Dawn Miles Nina Shipperlee ac Pam John |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd merched |
Efydd | Gary Cole | Jiwdo | o dan 60 kg |
Efydd | Claire Scourfield | Jiwdo | o dan 63 kg |
Efydd | Timothy Davies | Jiwdo | o dan 66 kg |
Efydd | Luke Preston | Jiwdo | o dan 81 kg |
Efydd | David Roberts | Nofio | 100m Dull rhydd i'r anabl |
Efydd | James Birkett-Evans a Michael Wixey |
Saethu | Parau trap |
Cyfeiriadau
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sportacademy/hi/sa/special_events/cycling/newsid_3909000/3909169.stm
- ↑ http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen marw]
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sport3/commonwealthgames2002/hi/swimming/newsid_2166000/2166261.stm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-28.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Kualar Lumpur |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Melbourne |