Glaw asid

Ffurf ar lygredd yw glaw asid. Mae'n achosi i'r glaw fod yn anarferol o asidig, a gall hyn achosi problemau yn yr amgylchedd. Tuedda glaw "arferol" i fod ychydig yn asidig, beth bynnag, gyda pH o tua 5.6, oherwydd fod asid carbonig yn cael ei ffurfio.
Mae'n broblem sylweddol ar rai o ucheldiroedd Cymru, lle mae'r pridd eisoes yn asidig. Mae glaw asid yn broblem fawr i natur, oherwydd os oes gormod o law asid, gall gwneud y llynoedd ar afonnydd mor wenwynig, y bydd dim natur yn medru goroesi ynddynt.