Gododdin (teyrnas)
Enghraifft o'r canlynol | llwyth, grŵp ethnig, lle, gwlad ar un adeg |
---|---|
Math | Y Celtiaid |
Olynwyd gan | Northumbria |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ulaid Dumnonia Lindsey Allwedd: |
Roedd y Gododdin yn llwyth ac yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd, sy'n awr yn ne-ddwyrain Yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr. Maent yn fwyaf adnabyddus fel pwnc y gerdd Y Gododdin, a briodolir i Aneirin.
Mae'r gair Gododdin (Hen Gymraeg Guotodin) yn tarddu o'r gair Brythoneg Votadini. Roedd canolfan y deyrnas yn Din Eidyn (Caeredin heddiw). I'r gogledd roedd yn ffinio ar diroedd y Pictiaid ac i'r gorllewin ar deyrnas Frythonig arall, Ystrad Clud. Yn y de, roedd yn ffinio ar Bryneich.
Yn 638 ymosodwyd ar Din Eidyn gan yr Angliaid, ac ymddengys i'r Gododdin ddod dan reolaeth yr Angliaid tua'r adeg yma.
Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gododdin
- Tegid
- Padarn Beisrudd
- Edern ap Padarn
- Cunedda
- Typiawn/Tybion ap Cunedda
- Meridawn
- Ysgyran
- Mynyddog Mwynfawr
- Coleddog ap Morgan Bryneich
- Dyfnwal ap Mynyddog
- Morgan ap Coleddog