Gorsaf reilffordd Reading
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Reading |
Agoriad swyddogol | 30 Mawrth 1840 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Reading Town Centre |
Sir | Bwrdeistref Reading |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.459°N 0.9722°W |
Cod OS | SU714738 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 15 |
Côd yr orsaf | RDG |
Rheolir gan | Network Rail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Mae gorsaf reilffordd Reading yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Reading yn Berkshire, de-ddwyrain Lloegr. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd y Great Western ac fe'i rheolir gan Great Western Railway.
Yn ogystal â phrif lein y Great Western, mae trenau’n mynd o Reading i Guildford, Maes Awyr Gatwick, Birmingham a gogledd Lloegr, yr Alban, Caerwynt, Southampton a Bournemouth. Mae rheilffordd trydanol yn mynd i Waterloo.[1]
Agorwyd yr orsaf ar 30 Mawrth, 1840[2] gyda un platfform. Roedd yn derminws gorllewinol dros dro i Reilffordd y Great Western. Enw gwreiddiol yr orsaf oedd “Reading”, ond newidiwyd yr enw i Reading General ar 26 Medi 1949 i’w gwahanieithu o orsaf arall y ddinas.
Yn ystod y 1960au trosglwyddwyd trenau o orsaf reilffordd Reading (De), ac adeiladwyd platfform ychwanegol (platfform 4A) ym 1965 ar eu cyfer; ond doedd un platfform ddim yn ddigonol. Ychwanegwyd platfform 4B ym 1975 ar gyfer trenau rhwng Reading a Maes Awyr Gatwick.
Yn ystod y 1980au, ychwanegwyd siopau a maes parcio aml-lawr.[1]
Agorwyd gorsaf newydd yn 2014.[3]