Gozón
Mae Gozón yn dref ac yn ardal weinyddol yn rhanbarth Avilés, Asturias. Y brifddinas yw tref Lluanco (Sbaeneg: Luanco). Mae'n ffinio gyda'r Môr Cantabri yn y gogledd, gyda Corvera yn y de, i'r gorllewin ceir Avilés, ac i'r dwyrain Carreño.
Porthladd pysgota yw'r fwrdeistref, ac yma y lleolir Cabo de Peñas ("Arfordir y Creigiau Mawrion").
Ar wahân i Lluanco mae'n rhaid i holl arwyddion yr ardal fod mewn Astwrieg; yr eithriad yw 'Lluanco/Luanco' a ganiateir yn y ddwy iaith.
Hinaswdd
Fel gyda gweddill ardaloedd poblogaidd Asturias, mae gan Gozón hinsawdd morol gydag ystod tymheredd uchel cyffredin o rhwng 13 °C (55 °F) – 23 °C (73 °F).
Plwyfi
Ceir sawl is-raniad pellach:
- Ambiedes
- Bañugues
- Bocines
- Cardo
- Heres
- Laviana
- Luanco
- Manzaneda
- Nembro
- Podes
Safle | Rhanbarth (Comarca) | Pobl. | Safle | Rhanbarth (Comarca) | Pop. | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Xixón Uviéu |
1 | Xixón | Xixón | 272,365 | 11 | Llanera | Uviéu | 13,794 | Avilés Siero |
2 | Uviéu | Uviéu | 220,301 | 12 | Llanes | Oriente | 13,759 | ||
3 | Avilés | Avilés | 79,514 | 13 | Llaviana | Nalón | 13,236 | ||
4 | Siero | Uviéu | 51,776 | 14 | Cangas del Narcea | Narcea | 12,947 | ||
5 | Llangréu | Comarca del Nalón | 40,529 | 15 | Valdés | Navia-Eo | 11,987 | ||
6 | Mieres | Caudal | 38,962 | 16 | Ḷḷena | Caudal | 11,278 | ||
7 | Castrillón | Avilés | 22,490 | 17 | Ayer | Caudal | 11,027 | ||
8 | Samartín del Rei Aurelio | Nalón | 16,584 | 18 | Carreño | Xixón | 10,545 | ||
9 | Corvera | Avilés | 15,871 | 19 | Gozón | Avilés | 10,440 | ||
10 | Villaviciosa | Xixón | 14,455 | 20 | Grau | Uviéu | 9,980 |
Rhagolwg o gyfeiriadau
- ↑ "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.