Griffith J. Griffith

Griffith J. Griffith
Ganwyd4 Ionawr 1850 Edit this on Wikidata
Betws Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1919 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiwydiannwr, dyngarwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PriodMary Agnes Christina Mesmer Edit this on Wikidata

Americanwr Cymreig, diwydiannwr a dyngarwr oedd Griffith Jenkins Griffith (4 Ionawr 18505 Gorffennaf 1919). Ar ôl gwneud ei ffortiwn o syndicâd mwynglawdd yn yr 1880au, rhoddodd Griffith 12.20 km2 o dir i Ddinas Los Angeles a ddaeth yn Barc Griffith.

Cafodd ei eni ym Metws, Sir Forgannwg, Cymru ar 4 Ionawr, 1850. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1865, yn 16 oed, i Ashland, Pennsylvania gan aros gyda chwpwl, mynychu'r ysgol leol a thalu am ei le drwy weithio iddynt.[1]

Ym 1873 symudodd i San Francisco, California pan benodwyd ef fel gohebydd yn arbenigo ar fwyngloddio i bapur newydd yn San Francisco, yn dilyn y rhuthr am aur yng Nghaliffornia. Arweiniodd hyn at gyfleoedd mewn syndicetiau mwyngloddio a thrwy'r rhain y llwyddodd i wneud ei ffortiwn.[2] Pan y bu farw, roedd ei ystâd yn werth $1.5 miliwn; fe'i claddwyd ym Mynwent Hollywood Forever yn Los Angeles ym mhen gogleddol Adran 7, sef "The Griffith Lawn". Wrth sefyll ger ei obelisg ac edrych tua'r gogledd, gellir gweld Arsyllfa Griffith.[14]

Trais a charchar

Symudodd i dde California, gan brynu 4,000 erw yn Rancho Los Feliz yng ngogledd-ddwyrain y ddinas cyn cadarnhau ei safle fel cymdeithaswr trwy briodi merch teulu amlwg ym 1887, sef Mary Agnes Christina Mesmer (1864-1948). Dywedir iddo geisio llofruddio ei wraig Christina yn ddiweddarach, gan ei gadael ag anafiadau i'w hwyneb. Fe'i carcharwyd am flwyddyn a naw mis yng Ngharchar San Quentin am hyn a ffein o $5,000. Ar Tachwedd 4, 1904, tra yr oedd yn y carchar, caniatawyd ysgariad i Mrs. Griffith ar sail creulondeb, a dyfarnwyd iddi warchodaeth o'u mab Vandell a oedd yn 16 oed.[3][4]

Mynedfa i Barc Griffith
Arsyllfa Griffith uwchben Los Angeles
Cofeb i Griffith

Enwyd Parc Griffith ac Arsyllfa Griffith yn Los Angeles ar ei ôl.

Parc Griffith

Dyma barc dinesig mwyaf yr Unol Daleithiau.[5] Ar 16 Rhagfyr 1896, cyflwynodd Griffith a'i wraig Christina 3,015 erw (1,220 hectar) o'i dir (y Rancho Los Feliz) i ddinas Los Angeles i'w ddefnyddio fel parc cyhoeddus. Galwodd Griffith y rhodd hwn yn "anrheg Nadolig."

Rwy'n ystyried ei bod yn ddyletswydd arnaf i wneud Los Angeles yn ddinas hapus, glanach a harddach. Dymunaf dalu fy nyled fel hyn i'r gymuned yr wyf wedi ffynnu ynddi.

Arsyllfa Griffith

Saif yr arsyllfa poblogfaidd hwn ar lethr sy'n wynebu'r de o Mount Hollywood ym Mharc Griffith. O'r copa gellir gweld Basn Los Angeles gan gynnwys Downtown Los Angeles i'r de-ddwyrain, Hollywood i'r de

Cyfeiriadau

  1. "BBC – south east Wales historical figures – Griffith J Griffith". BBC website. BBC. May 14, 2010. Cyrchwyd 14 Mai 2010.
  2. "The Britons who made their mark on LA". The Daily Telegraph (yn Saesneg). 2011-09-11. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2018-07-05.
  3. Los Angeles Daily Examiner, 5 Tachwedd 1904
  4. Jobb, Dean (15 Rhagfyr 2023). "Delusions of Grandeur: The Scandalous Crime of a Los Angeles Millionaire". CrimeReads. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2023.
  5. "Death Claims G. J. Griffith," Los Angeles Times, 7 Gorffennaf 1919