Gwasg argraffu
Dyfais sy'n gwasgu inc ar bapur neu wyneb rall i'w argraffu, yw gwasg argraffu (neu'n syml, y wasg). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn y cyfryngau torfol, a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr Johannes Gutenberg a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greodd wasg sgriwio.[1] Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd. Dros gyfnod o amser trodd y gair 'gwasg' i olygu nid yn unig y peiriant metal a ddefnyddiwyd, ond hefyd y cwmni a'i defnyddiai; daw'r gair o'r weithred o wasgu'r teip yn erbyn arwyneb y papur.
Cyn y 14g y dull arferol o argraffu gwybodaeth oedd drwy ddefnyddio blociau o bren, neu ysgythru defnydd fel lledr. Pan ddyfeisiodd Gutenberg fold i greu teip symudol, daeth yn broses yn llawer cynt, ac felly'n fasnachol bosobl.
Gweisg yng Nghymru
Yn 1546 y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef Yn y lhyvyr hwnn, ond yn Llundain y cafodd ei argraffu. Ni welwyd gwasg yng Nghymru tan 1587. Y ddau brif ysgogiad dros ddod a gwasg i Gymru oedd addysg a chrefydd. Gallai eglwyswyr Cymreig gyhoeddi eu llyfrau yn Llundain neu Rydychen ond yn ddirgel y cyhoeddodd y pabyddion eu llyfrau: yn Rhufain neu Ffrainc tan i wasg dirgel gael ei sefydlu yn Ogof Rhiwledyn, Llandudno lle gwelir heddiw olion y fan lle safodd y wasg argraffu pan y rhoed print ar bapur ac yr argraffwyd Y Drych Cristianogawl (1587).
Pan godwyd y gwaharddiadau yn 1695, un o'r gweisg gyfreithlon, cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru oedd gwasg Isaac Carter yn Nhrerhedyn, Llandyfrïog, yn 1718, a daeth yn ganolfan i gyhoeddi llyfrau yng Nghymru am ddegawdau. Tair mlynedd wedyn, yn 1721, sefydlwyd gwasg yng Nghaerfyrddin gan Nicholas Thomas, a daeth y dref yn bencadlys cyhoeddi Cymraeg am weddill y 18g.[2]
Gweler hefyd
- William Davies (offeiriad), cyhoeddwr Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.
Cyfeiriadau
- ↑ Kapr, Albert. Johannes Gutenberg: The Man and His Invention (Aldershot, Scolar Press, 1996).
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; 2008.