Harri III, brenin Lloegr
Harri III, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1207 Caerwynt |
Bu farw | 16 Tachwedd 1272 Westminster |
Swydd | teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon |
Tad | John, brenin Lloegr |
Mam | Isabella o Angoulême |
Priod | Eleanor o Provence, Eleanor o Provence |
Plant | Edward I, brenin Lloegr, Marged o Loegr, Beatrice o Loegr, Edmund Crouchback, Katherine o Loegr, Richard o Loegr, Ioan o Loegr, William o Loegr, Harri o Loegr |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Harri III (1 Hydref 1207 - 16 Tachwedd 1272), oedd brenin Lloegr o 19 Tachwedd 1216 hyd ei farw.[1] Roedd yn fab i John, brenin Lloegr a'r frenhines Isabella o Angouleme. Roedd yn frawd i Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Etifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cyntaf y Barwniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan William Marshal, Iarll 1af Penfro gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. William Marshal oedd ei ymgeleddwr, wedi marwolaeth y brenin John.
Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, roedd gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches lle flaenllaw yn ei lywodraethu, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisiodd y brenin, yn aflwyddiannus, i drechu Ffrainc - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd mab William Marshal yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch.
Manylion personol
Fe'i ganwyd yng Nghaerwynt. Priododd Eleanor o Provence yn Ionawr 1236.
Plant
- Edward (1239–1307)
- Marged (1240–1275)
- Beatrice (1242–1275)
- Edmund Crouchback (1245–1296)
- Catrin (1253–1257)
Rhagflaenydd: John |
Brenin Lloegr 19 Tachwedd 1216 – 16 Tachwedd 1272 |
Olynydd: Edward I |
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Ridgeway, Huw W. (2004), "Henry III (1207–1272)", Oxford Dictionary of National Biography (arg. online), Gwasg Prifysgol Rhydychen, doi:10.1093/ref:odnb/12950CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
|