Hastings Ismay, Barwn 1af Ismay
Hastings Ismay, Barwn 1af Ismay | |
---|---|
Ganwyd | Hastings Lionel Ismay 21 Mehefin 1887 Nainital |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1965 Wormington Grange |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, swyddog y fyddin |
Swydd | Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Tad | Stanley Ismay |
Mam | Beatrice Ellen Read |
Priod | Laura Kathleen Clegg |
Plant | Susan Katherine Lucy Ismay, Sarah Field Ismay, Mary Ismay |
Gwobr/au | Urdd Gwasanaeth Nodedig, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Cydymaith Anrhydeddus, Knight of the Garter, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cydymaith Urdd y Baddon |
Swyddog ym Myddin Brydeinig India a diplomydd o Brydeiniwr oedd y Cadfridog Hastings Lionel "Pug" Ismay, Barwn 1af Ismay, KG, GCB, CH, DSO, PC (21 Mehefin 1887 – 17 Rhagfyr 1965) sy'n enwocaf am ei rôl fel prif gynorthwy-ydd milwrol Winston Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf NATO o 1952 i 1957.
Ganwyd Ismay yn India ym 1887, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Charterhouse a Choleg Milwrol Brenhinol Sandhurst yn y Deyrnas Unedig. Ar ôl Sandhurst, ymunodd â Byddin India fel swyddog ym Marchoglu 11eg y Tywysog Albert Victor. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd gyda Chorfflu'r Camelod yn Somaliland, lle ymunodd â brwydr Prydain yn erbyn "y Mylah Gwallgof", Mohammed Abdullah Hassan. Ym 1925, daeth Ismay yn Is-ysgrifennydd ym Mhwyllgor Amddiffyn yr Ymerodraeth. Wedi iddo gael ei ddyrchafu'n gyrnol, gwasanaethodd fel ysgrifennydd milwrol yr Arglwydd Willingdon, Rhaglaw India, ac yna dychwelodd at Bwyllgor Amddiffyn yr Ymerodraeth ym 1936 fel ei Dirprwy Ysgrifennydd.
Ar 1 Awst 1938, ychydig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, daeth Ismay yn Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn yr Ymerodraeth a dechreuodd cynllunio ar gyfer y rhyfel oedd ar fin dechrau. Ym Mai 1940, pan ddaeth Winston Churchill yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, dewisiodd Ismay fel ei brif gynorthwy-ydd milwrol a swyddog staff. Yn y swyddi hyn, gwasanaethodd Ismay fel y cyswllt blaenllaw rhwng Churchill a Phwyllgor y Penaethiaid Staff. Bu Ismay hefyd yn mynd gyda Churchill i nifer o gynadleddau rhyfel y Cynghreiriaid.
Wedi diwedd y rhyfel, arhosodd Ismay yn y fyddin am flwyddyn arall, a chynorthwyodd wrth aildrefnu'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yna fe wnaeth ymddeol o'r lluoedd milwrol a gweithiodd fel Pennaeth Staff yr Arglwydd Mountbatten o Fyrma yn India, gan helpu i oruchwylio rhaniad yr isgyfandir. O 1948 i 1951, gwasanaethodd fel cadeirydd cyngor Gŵyl Prydain, gan helpu i drefnu ac hyrwyddo'r digwyddiad. Yna, ym 1951, pan ddaeth Churchill yn Brif Weinidog unwaith eto, penododd Ismay yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad. Derbyniodd Ismay y swydd, ond ymddiswyddodd ar ôl chwe mis i ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf NATO ym 1952. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol nes 1957, a chynorthwyodd wrth sefydlu a diffinio'r swydd. Ar ôl ymddeol o NATO, ysgrifennodd Ismay ei gofiannau, The Memoirs of General Lord Ismay, gwasanaethodd ar amryw o fyrddau cwmnïau, a chyd-gadeiriodd Pwyllgor Ismay–Jacob i aildrefnu'r Weinyddiaeth Amddiffyn unwaith eto. Bu farw ar 17 Rhagfyr 1965, yn ei gartref Wormington Grange yn Swydd Gaerloyw.