Henry Fielding
Henry Fielding | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1707 Sharpham |
Bu farw | 8 Hydref 1754 o sirosis Lisbon |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, cyfreithegwr, barnwr, nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, ynad, ynad heddwch, awdur storiau byrion |
Swydd | barnwr |
Arddull | dychan, nofel bicarésg, stori fer |
Tad | Edmund Fielding |
Mam | Sarah Gould |
Priod | Charlotte Craddock, Mary Daniel |
Plant | Henrietta Fielding, William Fielding, Allen Fielding |
Llenor o Loegr oedd Henry Fielding (22 Ebrill 1707 – 8 Hydref 1754), a aned ger Glastonbury yng Ngwlad yr Haf, Lloegr.
Bywyd
Cafodd Henry Fielding ei eni yn 1707 yn Sharpham Park, ger Glastonbury. Ar ôl cael ei addysg yn Eton, aeth i'r Iseldiroedd ac astudiodd y Clasuron yn Leiden. Pan ddychwelodd i Loegr parhaodd i astudio'r gyfraith ond ar yr un pryd dechreuodd ysgrifennu dramâu ac erthyglau i gylchgronau. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1740 ac yn 1749 fe'i apwyntiwyd yn ustus yn Westminster. Teithiodd i Lisbon, prifddinas Portiwgal, ym 1754 a bu farw yno ar yr 8fed o Chwefror. Cyhoeddwyd ei ddyddiadur o'r daith yn 1755, ar ôl ei farwolaeth.
Gwaith llenyddol
Roedd Fielding yn adwur toreithiog. Ysgrifennodd nifer o ddramâu ac erthyglau ond fe'i cofir yn bennaf am ei nofelau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- The History of the Adventures of Joseph Andrews and of his friend Mr Abraham Adams (1742)
- The History of Tom Jones, a Foundling (1749)
- Amelia (1751)
- The Life of Mr Jonathan Wild the Great (1743)
- Journal of a Voyage to Lisbon (1755)
Llyfryddiaeth
- A. Digeon, The Novels of Fielding (1924)
- H. Austin Dobson, Henry Fielding (1907)
- F.H. Dudden, Fielding (1952)
- M.P. Wilcocks, A True-Born Englishman (1947)