Hugh Griffith
Hugh Griffith | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Mai 1912 ![]() Marian-glas ![]() |
Bu farw | 14 Mai 1980 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau ![]() |
Actor o Gymro oedd Hugh Emrys Griffith (Cymraeg: Huw Emrys Gruffudd; 30 Mai, 1912 – 14 Mai, 1980). Cafodd ei eni ym Marianglas, Sir Fôn, yn rhugl ei Gymraeg ac yn fab i Mary a William Griffith. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sirol Llangefni, ond fe fethodd yr arholiadau i fynd i'r brifysgol. Cafodd ei annog i ddilyn gyrfa mewn bancio ond fe symudodd i Lundain i fod yn nes at gyfleon actio. Tra roedd ar gychwyn yn Academi Celfyddydau Drama Brenhinol (RADA) fe gychwynodd yr Ail Rhyfel Byd, a gwasanaethodd ym Myddin Lloegr am chwe mlynedd gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn India, ac yn ymgyrch Burma. Ailgydiodd yn ei yrfa actio yn 1946.
Derbyniwyd ef i'r orsedd gan yr Archdderwydd William Morris yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 1980, a'r un flwyddyn, bu farw o drawiad ar y galon yn Llundain.
Ffilmiau
- Neutral Port (1940)
- The Three Weird Sisters (1948)
- The Last Days of Dolwyn (1949)
- Laughter in Paradise (1951)
- The Titfield Thunderbolt (1953)
- The Sleeping Tiger (1954)
- Lucky Jim (1957)
- Ben-Hur (1959)
- Exodus (1960)
- Mutiny on the Bounty (1962)
- Tom Jones (1963)
- Moll Flanders (1965)
- Oliver! (1968)
- Sailor from Gibraltar
- Start the Revolution Without Me (1970)
- Cry of the Banshee
- Wuthering Heights
- Loving Cousins
- The Last Remake of Beau Geste (1977)
- Grand Slam (1978)
- The Hound of the Baskervilles
- The Passover Plot
Teledu
- Quatermass II (1955)
- Clochemerle (1972)
- Grand Slam (1978)