Hyades (clwstwr sêr)
Clwstwr sêr agored yw'r Hyades yng nghytser Taurus yn agos yn yr awyr nos i'r seren ddisglair Aldebaran. Fel y clwstwr sêr agosaf i'r Ddaear, mae'n hawdd i'w weld gyda'r llygad noeth, ac yn edrych fel grwp o sêr yn eithaf agos i'w gilydd yn y wybren gyda siâp llythyren 'V'.[1][2]
Ffynonellau
- ↑ Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8. Tud. 1817–1827. (Yn Saesneg.)
- ↑ "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 25 Hydref 2016. (Yn Saesneg.) Ymchwiliad am yr Hyades yn adnodd Simbad.