Iarllaeth Penfro
Enghraifft o: | teitl bonheddig |
---|---|
Math | pendefigaeth Lloegr, earl |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Penfro (gwahaniaethu).
Cysylltir Iarllaeth Penfro â Phenfro yn ne-orllewin Cymru; fe'i chrewyd gan Steffan, brenin Lloegr yn 1138 ar gyfer Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro. Mae'r llinach wedi dod i ben sawl gwaith, ac mae'r iarllaeth wedi'i hail-greu 10 gwaith, gan ddechrau'r cyfrif unwaith eto gyda'r Iarll cyntaf. Ar 1 Medi 1533 urddodd Harri VIII, brenin Lloegr ei frenhines, Anne Boleyn, yn Ardalyddes Penfro, braint nodedig, oherwydd fod ei hen-ewythr Siasbar Tudur yn gyn-Iarll Penfro, a chan mai yno y ganed ei dad, Harri Tudur.
Mae'r Iarllaeth bresennol Iarll Trefaldwyn (1605) yn cynnwys y teitlau Iarllaeth Trefaldwyn, Barwniaeth Caerdydd a 'Bwrniaeth Shurland'.
Mae sedd y teulu ers dros 400 mlynedd wedi bod yn Nhŷ Wilton yn Swydd Wilton.
Hanes
Crëwyd yr Iarllaeth cyntaf yn 1138, pan gyflwynwyd Iarllaeth Penfro gan Steffan, brenin Lloegr i Gilbert de Clare (bu farw 1148), mab Gilbert Fitz-Richard, a oedd yn berchen ar Arglwyddiaeth Strigul (Estrighoiel, yn y Domesday Book), Cas-gwent yw hi erbyn hyn. Ar ôl Brwydr Lincoln (1141), ble gymerodd ran, ymunodd yr Iarll ag Empress Matilda, a phriododd meistres Harri I, brenin Lloegr, Isabel, merch Robert de Beaumont, Iarll Caerlŷr.
De Clare
- Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro (1100-1147)
- Richard de Clare, 2il Iarll Penfro (1130-1176)
- Gilbert de Striguil, 3ydd Iarll Penfro (1173-1185)
Roedd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro (bu farw 1176), a adnabuwyd yn aml fel Strongbow, yn fab i'r Iarll cyntaf, ac etifeddodd ystadau ei dad yn 1148, ond collodd hwy erbyn 1168. Er, yn y flwyddyn honno, dewiswyd ef i arwain yr ymgyrch Normanaidd i'r Iwerddon i gefnogi Diarmuid, brenin Leinster, a oedd wedi cael ei yrru allan o'i dir breiniol. Croesodd y môr i'r Iwerddon yn 1170, a chymerodd Waterford a Dulyn, a phriododd merch Diarmuid, Aoife, gan hawlio Brenhiniaeth Leinster wedi marwolaeth Diarmuid yn 1171. Roedd Harri II, brenin Lloegr, yn amheus iawn o'r bŵer, a chymerodd ei eiddo oddi arno yn yr un flwyddyn, gan oresgyn Iwerddon ei hun yn 1172, a rhoi ei ddynion ef mewn pŵer. Dychwelodd Strongbow i'w ffafriaeth ac i bŵer yn Iwerddon yn 1173 pan helpodd y Brenin mawn ymgyrch yn erbyn gwrthryfela ei feibion. Bu farw yn 1176 ar ôl blynyddoedd o gwffio yn erbyn gwrthryfelwyr Gwyddeleg.
Bu farw Strongbow heb dadu mab, felly daeth ei ferch, Isabel yn Iarlles Penfro, a rhoddwyd y teitl Iarll Penfro i'w gŵr, yr enwog Syr William Marshal, mab John y Marshal, a Sibylle, chwaer Patrick, Iarll Salisbury.
Marshal
- William Marshal, Iarll 1af Penfro (1146-1219)
- William Marshal, 2il Iarll Penfro (1190-1231)
- Richard Marshal, 3ydd Iarll Penfro (tua 1191-1234)
- Gilbert Marshal, 4ydd Iarll Penfro (bu farw 1241)
- Walter Marshal, 5ed Iarll Penfro (tua 1199-1245)
- Anselm Marshal, 6ed Iarll Penfro (bu farw 1245)
Credai nifer mai William Marshal oedd y Marchog gorau erioed yng ngwledydd cred, pan, yn Awst 1189, yn 43 oed, rhoddwyd llaw Isabel de Clare iddo mewn priodas, a chrëwyd ef yn Iarll 1af Penfro gan Risiart I, brenin Lloegr. Er ei fod eisoes wedi ochri gyda'i dad Harri yn erbyn ei wrthryfela, cadarnhaodd Richard drwydded y Brenin ar gyfer ei briodas i etifeddes Iarllaeth Strigul a Pembroke. Gwasanaethodd Richard a John, brenin Lloegr yn ffyddlon, gan amddiffyn yr ail rhag barwniau gwrthryfelgar Ffrainc a Lloegr yn Rhyfel 1af y Barwniaid. Roedd hefyd yn bresennol pan arwyddwyd y Magna Carta ym 1215. Ar farwolaeth John yn 1216, enwebwyd Marshal, a oedd yn 70 oed erbyn hyn, yn Ddirprwy Frenin y frenhiniaeth ac amddiffynnwr y brenin ifanc, Harri III. Gorchfygodd y gwrthryfelwyr a'u cefnogwyr Ffrengig, ac ail-gyhoeddodd y Magna Carta er mwyn cadarnhau'r heddwch. Aeth ei iechyd yn wael ym 1219, ac ar 14 Mai bu farw yn ei faenor yn Caversham, ger Reading. Ei olynydd fel Dirprwy Frenin oedd Hubert de Burgh, Iarll 1af Caint, ac olynwyd ef yn ei iarllaeth gan ei bum mab.
Gwariodd ei fab hynaf, William Marshal (bu farw 1231), 2il Iarll Penfro yn y llinell hon, rai blynyddoedd yng nghanol y rhyfela yng Nghymru ac yn Iwerddon, ble roedd o'n ynad rhwng 1224 a 1226; gwasanaethodd Harri III yn Ffrainc hefyd. Roedd ei ail wraig yn chwaer i'r brenin, Eleanor, ac yna'n wraig Simon de Montfort, ond ni adawodd unrhyw blant.
Daeth ei frawd Richard Marshal (bu farw 1234), y 3ydd Iarll, i'r amlwg fel arweinydd y parti barwnol, a phrif wrthwynebydd ffrindiau estron Harri III. Gan ofni bradwriaeth, gwrthododd ymweld â'r brenin yng Nghaerloyw yn Awst 1233, a datganodd Harri ef yn bradwr. Croesodd i'r Iwerddon lle roedd Peter des Roches wedi annog ei elynion i ymosod arno, ac yn Ebrill 1234 gorchfygwyd ac anafwyd ef; bu farw yn garcharwr.
Daeth ei frawd Gilbert (bu farw 1241), yn 4ydd Iarll Penfro, ac roedd yn gefnogwr i Richard, Iarll Cernyw. Pan bu farw brawd arall, Anselm, y 6ed Iarll, yn Rhagfyr 1245, diflannodd llinell disgynyddion Iarll Marshal y Mwyaf. Rhannwyd eiddo estynedig y teulu rhwng pum chwaer Anselm a'u disgynyddion, a dychwelodd Iarllaeth Penfro i berchnogaeth y Goron.
de Valence
- William de Valence, Iarll 1af Penfro (tua 1225-1296)
- Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro (1270-1324) (diflanwyd)
Deilydd nesaf Iarllaeth Penfro oedd William de Valence, mab ieuengaf Hugh de Lusignan, Iarll La Marche, trwy ei briodas ag Isabella o Angoulême, gweddw brenin John o Loegr. Ym 1247, symudodd William, ynghyd â dau o'i frodyr, o Ffrainc i Loegr, lle roedd eu hanner brawd, Harri III yn frenin. Priododd brenin Ffrainc William â Joan de Munchensi (bu farw 1307), wyres ac etifeddes William Marshal, Iarll 1af Penfro. Rhoddwyd cadwraeth teitl a thiroedd Penfro i Valence, gan roi cyfoeth a phŵer cryf iddo yn ei diroedd newydd. Fel canlyniad, roedd yn amhoblogaidd ac ymwnaeth yn drwm ag Ail Ryfel y Barwniaid, gan gefnogi'r brenin a'r Tywysog Edward yn erbyn y gwrthryfelwyr o oedd dan arweiniad Simon de Montfort. Ar ôl gorchfygaeth olaf y gwrthryfelwyr ym Mrwydr Evesham yn 1265, daliodd William ymlaen i wasanaethu Harri III, ac yna Edward I, hyd ei farwolaeth yn 1296.
Etifeddodd mab hynaf goroesog William, Aymer (tua 1265-1324), ystadau ei dad, ond nid adnabyddwyd ef yn swyddogol fel Iarll Penfro tan marwolaeth ei fam, Joan yn 1307. Apwyntwyd ef yn warchodwr Yr Alban yn 1306, ond ar esgyniad Edward II, brenin Lloegr i'r orsedd a chodiad canlynol Piers Gaveston i bŵer, lleihaodd ei ddylanwad. Daeth yn flaenllaw ymysg yr uchelwyr anfodlon, ond yn 1312, ar ôl i Iarll Warwick ei fradychu wrth ladd Gaveston ar ôl ei ddal, gadawodd Aymer yr arglwyddi unedig ac ymunodd i gefnogi'r brenin. Roedd yn bresennol yn Bannockburn ym 1314, ac yn ddiweddarach, helpodd y brenin Edward i orchygu Thomas Plantagenet, 2il Iarll Caerhirfryn. Ond erbyn ei farwolaeth ym 1324, roedd unwaith eto wedi colli ei ddylanwad yn y llys, ac roedd mewn trafferthion ariannol. Ei wraig ef, Mary de Châtillon, un o ddisgynyddion Harri III, oedd sefydlwr Coleg Penfro, Caergrawnt.
Hastings
- Lawrence Hastings, Iarll 1af Penfro (1318-1348)
- John Hastings, 2il Iarll Penfro (1347-1375)
- John Hastings, 3ydd Iarll Penfro (1372-1389) (diflanwyd)
Ym 1339, crëwyd, neu adnabyddwyd Laurence, Arglwydd Hastings (bu farw 1348), gorwyr William de Valence, yn Iarll Penfro, wedi iddo etifeddu (drwy'r llinell fenywaidd) rhan o ystadau Valence, Ieirll Penfro. Priododd ei fab John (bu farw 1376) Margaret Plantagenet, merch y brenin Edward III, ac ar farwolaeth ei wyr yn ddi-blant ym 1389 dychwelodd Iarllaeth Penfro i'r Goron unwaith eto.
Plantagenet, Pole a Thudur
Ym 1414, crewyd Humphrey Plantagenet, pedwerydd mab Henry IV, brenin Lloegr, yn Ddug Caerloyw a Iarll Penfro am gydol ei oes, trodd y cyntaf yn deitl etifeddol a dychwelodd yr ail i fod yn deitl etifeddol, wedi y rhoddwyd i'r etifeddwr, Humphrey, William de la Pole, Dug 1af Suffolk. Wedi marwolaeth Humphrey yn ddi-blant, yn 1447 daeth y bonheddigwr yma yn Iarll Penfro. Torrwyd ei ben i ffwrdd yn 1450 a chollwyd y teitlau. Ym 1453 rhoddwyd y teitlau i Syr Siasbar Tudur, hanner brawd Henry VI, brenin Lloegr. Gan fod Syr Siasbar yn ochri gyda'r Lancastriaid, collodd ei deitl tra roedd yr Iorcwyr yn flaenllaw, ond adferwyd y teitl ar esgyniad Harri VII, brenin Lloegr. Ar ei farwolaeth yn ddi-olynyddol yn 1495, diflanwyd y teitl unwaith eto.
Herbert a Plantagenet
- Siasbar Tudur, Dug 1af Bedford (tua 1431-1495) (collwyd 1461; adferwyd 1485) (diflanwyd)
Yn ystod ei warth, cymerwyd Syr Siasbar yn garcharwr gan Syr William Herbert (bu farw 1469), pleidiwr Iorc, oedd wedi ei wneud yn Farwn Herbert gan Edward IV. Gwobrwywyd ef am hyn trwy ei wneud yn Iarll Penfro yn lle Siasbar yn 1468. Daeth ei fab William (bu farw 1491) yn Iarll Huntingdon yn lle Iarllaeth Penfro, a ildiodd i Edward IV, a'i rhoddodd i'w fab, Edward, tywysog Cymru. Pan ddaeth yr Edward hwn yn frenin fel Edward V, parhaodd y teitl yn eiddo'r goron.
Herbert
- William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)
- William Herbert, 2il Iarll Penfro (1451–1491) (ildwyd 1479)
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Ail-grëwyd y teitl Iarll Penfro nesaf o ffarf Syr William Herbert (tua 1501–1570), roedd ei dad, Richard, yn fab anghyfreithlon Iarll 1af Penfro o dŷ Herbert. Priododd Anne Parr, chwaer chweched gwraig Harri VIII, a chrëwyd ef yn Iarll yn 1551. Ers hyn, delwyd y teitl gan ei ddisgynyddion.
Fel ysgutor ewyllys Harri VIII, a derbynnydd grantiau tir gwerthfawr, roedd Herbert yn berson blaengar a phwerus yn ystod brenhiniaeth Edward VI, yn amddifynwr o Edward Seymour, Dug 1af Gwlad yr Haf a'i wrthwynebydd, John Dudley, Dug 1af Northumberland, yn ddiweddarach ceisiodd Dug Northumberland ennill cefnogaeth Herbert, taflodd Herbert ei nerth tu ôl i Dudley, ac wedi goresgyn Seymour, enillodd rhai o'i diroedd yn Swydd Wilton a phendefigaeth. Honnai sawl ei fod wedi cynllwynio i gael Coron Lloegr ar Arglwyddes Jane Grey; a tybiwyd ei fod yn un o'i chynghorwyr yn ystod ei theyrnasiad byr, ond datganodd ei gefnogaeth o Mary I, brenhines Lloegr pa welodd fod yr Arglwyddes Jane wedi colli ei gafael ar y goron. Roedd Mary a'r ffrindiau yn aml yn amheus o ffyddlondeb yr Iarll Penfro, ond cyflogwyd ef fel llywodraethwr Calais, ac Arlywydd Cymru ymysg swyddi eraill. Roedd hefyd mewn cyswllt â Philip II, brenin Sbaen. Deliodd yr Iarll ei safle yn y llys o dan deyrnasiad Elizabeth I, brenhines Lloegr tan 1569, pan amheuwyd ef o gefnogi priodas tybiedig rhwng Mary I, brenhines yr Alban, a Dug Norfolk. Ymysg y tiroedd mynachlog a roddwyd i Herbert oedd ystâd Wilton, ger Salisbury, sydd hyd heddiw yn gartref i Ieirll Penfro.
Ieirll Penfro, y Creadigaeth gyntaf (tua 1138)
- Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro (1100-1147)
- Richard de Clare, 2il Iarll Penfro (1130-1176)
- Gilbert de Striguil, 3ydd Iarll Penfro (1173-1185)
Ieirll Penfro, yr ail Greadigaeth (1189)
- William Marshal, Iarll 1af Penfro (1146-1219)
- William Marshal, 2il Iarll Penfro (1190-1231)
- Richard Marshal, 3ydd Iarll Penfro (tua 1191-1234)
- Gilbert Marshal, 4ydd Iarll Penfro (bu farw 1241)
- Walter Marshal, 5ed Iarll Penfro (tua 1199-1245)
- Anselm Marshal, 6ed Iarll Penfro (bu farw 1245)
Ieirll Penfro, y drydedd Greadigaeth (1247)
- William de Valence, Iarll 1af Penfro (tua 1225-1296)
- Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro (1270-1324) (diflanwyd)
Ieirll Penfro, y bedwaredd Greadigaeth (1339)
- Lawrence Hastings, Iarll 1af Penfro (1318-1348)
- John Hastings, 2il Iarll Penfro (1347-1375)
- John Hastings, 3ydd Iarll Penfro (1372-1389) (diflanwyd)
Ieirll Penfro, y bumed Greadigaeth (1414)
Ieirll Penfro, y chweched Creadigaeth (1447)
- William de la Pole, 1st Duke of Suffolk (1396-1450) (diflanwyd)
Ieirll Penfro, y seithfed Creadigaeth (1452)
- Siasbar Tudur, Dug 1af Bedford (tua 1431-1495) (collwyd 1461; adferwyd 1485) (diflanwyd)
Ieirll Penfro, yr wythfed Creadigaeth (1468)
- William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)
- William Herbert, 2il Iarll Penfro (1451–1491) (ildwyd 1479)
Ieirll Penfro, y nawfed Creadigaeth (1479)
Ardalyddes Penfro (1533)
Iarll Penfro, y degfed Creadigaeth (1551)
- William Herbert, Iarll 1af Penfro (1501–1570)
- Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (1534-1601)
- William Herbert, 3ydd Iarll Penfro (1580-1630)
- Philip Herbert, 4ydd Iarll Penfro, Iarll 1af Trefaldwyn (1584-1649)
- Philip Herbert, 5ed Iarll Penfro, 2il Iarll Trefaldwyn (1621-1669)
- William Herbert, 6ed Iarll Penfro, 3ydd Iarll Trefaldwyn (1642-1674)
- Philip Herbert, 7fed Iarll Penfro, 4ydd Iarll Trefaldwyn (tua 1652-1683)
- Thomas Herbert, 8fed Iarll Penfro, 5ed Iarll Trefaldwyn (1656-tua 1732)
- Henry Herbert, 9fed Iarll Penfro, 6ed Iarll Trefaldwyn (1693-1750)
- Henry Herbert, 10fed Iarll Penfro, 7fed Iarll Trefaldwyn (1734-1794)
- George Augustus Herbert, 11eg Iarll Penfro, 8fed Iarll Trefaldwyn (1759-1827)
- Robert Henry Herbert, 12fed Iarll Penfro, 9fed Iarll Trefaldwyn (1791-1862)
- George Herbert, 13eg Iarll Penfro, 10fed Iarll Trefaldwyn (1850-1895)
- Sidney Herbert, 14eg Iarll Penfro, 11eg Iarll Trefaldwyn (1853-1913)
- Reginald Herbert, 15fed Iarll Penfro, 12fed Iarll Trefaldwyn (1880-1960)
- Sidney Herbert, 16eg Iarll Penfro, 13eg Iarll Trefaldwyn (1906-1969)
- Henry Herbert, 17eg Iarll Penfro, 14eg Iarll Trefaldwyn (1939-2003)
- William Alexander Sidney Herbert, 18fed Iarll Penfro, 15fed Iarll Trefaldwyn (ganed 1978)
Etifedd Tebygol y ddau Iarllaeth (heblaw Barwniaeth Herbert o Lea): Iarll Caernarfon (ganed 1958)
Defnydd arall yr enw
Mae hefyd llong dal o'r enw Iarll Penfro, sydd wedi cael ei defnyddio mewn sawl ffilm hanesyddol, gweler hefyd HM Bark Endeavour
Credai fod tref Pembroke Pines (Cymraeg: Pinwyddau Penfro), yn Florida wedi ei enwi ar ôl Iarll Penfro, perchennog tir cynnar yn Broward County.
Enwyd Pembroke, New Hampshire ar ôl Henry Herbert, 9fed Iarll Penfro gan y Llywodraethwr Benning Wentworth.
Cyfeiriadau
- ↑ An Inventory of the Ancient Monuments in Glamorgan. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments in Wales. 1981. t. 355. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2016.
- ↑ Debrett's Peerage of England, Scotland, and Ireland. Debrett's. 1840. t. 569. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2016.
- G. T. Clark, The Earls, Earldom and Castle of Pembroke (Tenby 1880)
- J. R. Planche, 'The Earls of Strigul', yn cyf. x. Proceedings of the British Archaeological Association (1855)
- G. E. C(okayne), Complete Peerage, cyf. vi. (Llundain, 1895).
- Giraldus Cambrensis, Expugnatio hibernica
- The Song of Dermot, golygwyd gan G. H. Orpen (1892).
- The metrical French life, Histoire de Guillaume le Marchal (Golygwyd gan P. Meyer, 3 cyf., Paris, 1891-1901)
- The Minority of Henry III, gan G. J. Turner (Cyfieithiad Cymdeithas Brenhinol Hanes, cyfres newydd, cyf. xviii. pp. 245295)
- W. Stubbs, Constitutional History, pen. xii. and xiv. (Oxford, 1896f 897)