Idan Amedi
Idan Amedi | |
---|---|
Y Cefndir | |
Ganwyd | Pisgat Ze'ev, Jeriwsalem | 19 Chwefror 1988
Tarddiad | Israel |
Math o Gerddoriaeth | Pop roc |
Gwaith | Canwr, Actor |
Cyfnod perfformio | 2010-presennol |
Label | Aroma Music |
Perff'au eraill | Amir Benayoun |
Gwefan | idanamedi.club/ |
Ganed Idan Amedi (Hebraeg: עידן עמדי), ar 19 Chwefror 1988 yn Pisgat Ze'ev, Jeriwsalem, Israel ac mae'n gyfansoddwr-canwr ac actor Hebraeg.
Yn 2006 cymerodd ran yn yr 8fed gyfres o'r gyfres gystadleuaeth gerddorol Israeli, Kokhav Nolad ('Ganed Seren'), gan ddod yn ail.[1] Roedd ei gân "Poen yr Ymladdwyr"[2] wedi ei gyfansoddi ganddo am ei brofiadau fel milwr gweithredol yn Corfflu Peirianwyr Milwr yn ystod ei Wasaaeth Filwrol gorfodol. Rhyddhaodd ei albwm gyntaf, a enwyd ar ei ôl, yn 2011. Roedd yn arbenigwr ar ymladd Taekwondo a Bocsio Thai.
Yn 2017 ymunodd ag ail gyfres o'r ddrama wleidyddol Israeli, Fauda.[3] Chwaraeodd ran 'Sagi', Arab sy'n ymuno â'r uned milwyr-cudd. Cyfansoddodd Amedi y gân i'r gyfres, מנסים (ynganer: Menasim, 'Ceisio') yn Hebraeg. Mae'r gân yn cynnwys geiriau yn Hebraeg ac Arabeg.[4]
Mae aelod arall o gast Fauda hefyd yn cyfansoddi a chanu, Tzachi HaLevy.
Discograffi
- Idan Amedi (2011)
- Lately (2013)
- Wanted to Be (2015))
- A Part-Time (Helek Me'hazman) (2017)
Dolenni
- Gwefan Idan Amedi (Saesneg) Archifwyd 2019-02-25 yn y Peiriant Wayback
- Cân Idan Amedi at y gyfres 'Fauda'
Cyfeiriadau
- ↑ Peace Talks? What’s on TV? New York Times. 13 September 2010
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=DPeCNCkydXc
- ↑ How the Netflix series ‘Fauda’ shows the human side of the Israeli-Palestinian conflict Washington Examiner. 22 November 2017
- ↑ https://idanamedi.club/idan-amedi-reveals-secrets-fauda/[dolen farw]