Ieithoedd Sino-Tibetaidd

Tsieino-Tibeteg mewn coch.

Mae'r ieithoedd Tsieino-Tibetaidd[1] yn deulu ieithyddol sy'n ymrannu yn ddwy gangen fawr, yr ieithoedd Tsieinïaidd a'r ieithoedd Tibeto-Byrmanaidd. Mae'r teulu yn cynnwys tua 250 o ieithoedd, a siaredir yn bennaf yn nwyrain Asia. Siaredir y Tsieino-Tibeteg gan tua 23% o boblogaeth y byd; dim ond yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n cael eu siarad gan ganran fwy.

Dosbarthiad

Mae dosbarthiad James Matisoff yn cael ei dderbyn yn bur gyffredinol:

Tsieino-Tibeteg (Matisoff)

  • Tsieinëeg (ieithoedd Tsieinïaidd)
    • Mandarin
      • Mandarin Safonol
      • Jin
    • Wu
      • Shanghaieg
      • Hui
    • Cantoneg
      • Ping
    • Min
      • Taiwaneg
    • Xiang
    • Haca
    • Gan
  • Tibeto-Byrmaneg
    • Kamarupan
      • Kuki-Chin-Naga
      • Abor-Miri-Dafla
      • Bodo-Garo
    • Himalayeg
      • Maha-Kiranti (yn cynnwys Nepal Bhasa, Magar, Rai)
      • Tibeto-Kinauri (yn cynnwys Tibeteg, Lepcha)
    • Qiangeg
    • Jingpho-Nungish-Luish
      • Kachineg (Jingpho)
      • Nungeg
      • Luish
    • Lolo-Byrmaneg-Naxi
    • Kareneg
    • Baieg
    • Tujiaeg (heb ei dosbarthu)

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, d.g. [Sino-Tibetan].