Immram


Dosbarth o chwedlau arbennig yn llenyddiaeth Wyddeleg yw immram neu imram (yn llythrennol "rhwyfo", sef 'mordaith', 'mordaith a wneir o wirfodd'). Yn y dosbarth hwn ceir chwedlau sy'n adrodd hanes mordeithiau i ynysoedd rhyfeddol sy'n gorwedd y tu hwnt i'r byd cyffredin. Ceir dosbarth arall o chwedlau am fordeithiau, yr echtrae, sy'n perthyn yn agos i'r immramau.

Mae'r immramau mwyaf adnabyddus yn cynnwys,

  • Immram Brain (Mordaith Bran)
  • Immram Curaig Maíle Dúin (Mordaith Cwch Mael Duin)

Perthyn i'r dosbarth hwn hefyd, er ei bod yn destun Lladin, mae Navigatio Sancti Brendani (Mordaith Sant Brendan).

Ffynhonnell

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997)
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.