Dosbarthiad amrywiaethau ar yr ieithoedd Inwit ar draws yr Arctig. Mae'r tafodieithoedd Inuktitut Dwyreiniol i'r dwyrain o Fae Hudson, yma mewn glas tywyll, coch a phinc.
Un o'r prif ieithoedd Inwit Canada yw Inuktitut (ᐃᓄᒃᑎᑐᑦ [inuktiˈtut], Inuktitut, Inuttitut, Inuktitun, Inuinnaqtun, Inuttut ac enwau lleol eraill). Fe'i siaredir ym mhob ardal uwchben y coedlin, gan gynnwys taleithiau Newfoundland a Labrador, Québec, i ryw raddau yng ngogledd-ddwyrain Manitoba a hefyd Nunavut.