Jalal Talabani
Jalal Talabani | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Tachwedd 1933 ![]() Kelkan ![]() |
Bu farw | 3 Hydref 2017 ![]() o gwaedlif ar yr ymennydd ![]() Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | Irac ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithegwr, cyfreithiwr ![]() |
Swydd | Prif Weinidog Irac, Arlywydd Irac ![]() |
Plaid Wleidyddol | MAS IPSP ![]() |
Priod | Hero Ibrahim Ahmed ![]() |
Plant | Bafel Talabani ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Bruno Kreisky ![]() |
Arlywydd Irac o 2005 hyd 2014 oedd Jalal Talabani (Cyrdeg: جه لال تاله بانی / Celal Talebanî / Jelal Talebaní; Arabeg: جلال طالباني, Jalāl Tālabānī) (ganed 12 Tachwedd 1933 ym mhentref Kelkan, Kurdistan; marw 3 Hydref 2017). Cafodd ei ethol ar 6 Ebrill, 2005 (cymerodd ei lw ar 7 Ebrill, ac eto ar 22 Ebrill, 2006, o flaen Cynulliad Cenedlaethol Irac). Mae Talabani yn wleidydd profiadol sy'n sefydlydd ac ysgrifennydd cyffredinol un o'r prif bleidiau gwleidyddol Cyrdaidd yn Irac, Undeb Gwladgarol Kurdistan (Patriotic Union of Kurdistan: PUK). Bu'n aelod blaenllaw o Gyngor Llywodraethol Dros Dro Irac, a sefydlwyd gan yr Americanwyr ar ôl cwymp llywodraeth Saddam Hussein mewn canlyniad i oresgyniad y wlad yn 2003.