Jamie Lee Curtis

Jamie Lee Curtis
Ganwyd22 Tachwedd 1958 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Choate Rosemary Hall
  • Ysgol Uwchradd Beverly Hills
  • Prifysgol y Môr Tawel
  • Ysgol Uwchradd Westlake
  • Harvard-Westlake School
  • The Center for Early Education Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, llenor, awdur plant, cynhyrchydd gweithredol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHalloween, A Fish Called Wanda Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluyr Almaen Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadTony Curtis Edit this on Wikidata
MamJanet Leigh Edit this on Wikidata
PriodChristopher Guest Edit this on Wikidata
PlantRuby Guest, Annie Guest Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Hasty Pudding Woman of the Year, Jupiter Awards, 'Disney Legends' Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur ac actores Americanaidd yw Jamie Lee Curtis (ganwyd 22 Tachwedd 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor ffilm, teledu, a llais - ac fel awdur plant.

Ganed Jamie Lee Haden-Guest yn Santa Monica, California ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Choate Rosemary Hall, Ysgol Uwchradd Beverly Hills, Prifysgol y Pacific ac Ysgol Uwchradd Westlake. Priododd Christopher Guest ac mae Thomas Guest ac Annie Guest yn blant iddi. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, a bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.[1][2][3][4][5]

Gwnaeth ei ffilm gyntaf ym 1978 fel y cymeriad Laurie Strode yn ffilm arswyd John Carpenter Halloween (Calan Gaeaf). Sefydlodd y ffilm hi fel y "scream queen", ac ymddangosodd mewn cyfres o ffilmiau arswyd ym 1980, gan gynnwys The Fog, Prom Night, a Terror Train. Ail-chwaraeodd rôl Laurie Strode mewn pedwar dilyniant, gan gynnwys Halloween II (1981), Halloween H20: 20 Years Later (1998), Halloween: Resurrection (2002), a Halloween (2018).

Mae ffilmiau Curtis yn rhychwantu sawl genres, gan gynnwys y comedïau cwlt Trading Places (1983) ac am ei thrafferth, derbyniodd wobr BAFTA am yr Actores Gefnogol Orau, ac A Fish Called Wanda (1988), a ddaeth ag enwebiad BAFTA iddi am yr Actores Orau. Enillodd wobr y Golden Globe, Gwobr Gomedi Americanaidd, a Gwobr Saturn am chwarae rhan serennu Helen Tasker yn ffilm gomedi actio James Cameron True Lies (1994). Mae ffilmiau mawr eraill Curtis yn cynnwys Blue Steel (1990), My Girl (1991), Forever Young (1992), The Tailor of Panama (2001), Freaky Friday (2003), Beverly Hills Chihuahua (2008), You Again (2010) , Veronica Mars (2014), a Knives Out (2019).

Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau plant, ers 1998 pan gyhoeddodd Today I Feel Silly, a Other Moods That Make My Day yn gwneud rhestr gwerthwyr gorau The New York Times. Mae hi hefyd yn flogiwr aml ar gyfer The Huffington Post. Derbyniodd Curtis seren ar y Hollywood Walk of Fame ym 1998.

Magwraeth

Rhieni Curtis oedd yr actorion Tony Curtis a Janet Leigh. Mewnfudwyr Iddewig-Hwngaraidd oedd ei neiniau a'i theidiau ar ochr ei thad.[6] Roedd dau o hen neiniau a theidiau ei mam o Ddenmarc, tra bod gweddill llinach ei mam yn Almaenwyr ac yn Albanwyr-Gwyddelig.[7] Ysgarodd rhieni Curtis ym 1962. Ar ôl yr ysgariad, dywedodd nad oedd ei thad "o gwmpas" ac "Nid oedd bellach yn dad ac nid oedd ganddo ddiddordeb mewn bod yn dad."[8]

Mynychodd Brifysgol y Pacific yn Stockton, California a dechreuodd ganolbwyntio ar waith cymdeithasol, ond rhoddodd y gorau iddi ar ôl un semester i ddilyn gyrfa actio. [9][10]

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1978 Halloween (1978) Laurie Strode
1980 The Fog Elizabeth Solley
1980 Prom Night (1980) Kim Hammond
1980 Terror Train Alana Maxwell
1981 Roadgames Pamela "Hitch" Rushworth
1981 Halloween II (1981) Laurie Strode
1982 Halloween III: Season of the Witch Gweithiwr ffôn Llais yn unig
1982 Coming Soon (1982) Narrator Dogfen
1983 Love Letters (1984) Anna Winter
1983 Trading Places Ophelia
1984 Grandview, U.S.A. Michelle "Mike" Cody
1984 The Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension Sandra Banzai
1985 Perfect (1985) Jessie Wilson
1987 A Man in Love (1987) Susan Elliot
1987 Amazing Grace and Chuck Lynn Taylor
1988 Dominick and Eugene Jennifer Reston
1988 A Fish Called Wanda Wanda Gershwitz
1990 Blue Steel (1990) Megan Turner
1991 Queens Logic Grace
1991 My Girl Shelly DeVoto
1992 Forever Young (1992) Claire Cooper
1993 Mother's Boys Judith "Jude" Madigan
1994 My Girl 2 Shelly DeVoto Sultenfuss
1994 True Lies Helen Tasker
1996 House Arrest Janet Beindorf
1997 Fierce Creatures Willa Weston
1998 Homegrown (film) Sierra Kahan
1998 Halloween H20: 20 Years Later Laurie Strode / Keri Tate
1999 Virus (1999) Kelly Foster
2000 Drowning Mona Rona Mace
2001 The Tailor of Panama (film) Louisa Pendel
2001 Daddy and Them Elaine Bowen
2001 Rudolph the Red-Nosed Reindeer and the Island of Misfit Toys Queen Camilla llais yn unig
2002 Halloween: Resurrection Laurie Strode
2003 Freaky Friday (2003) Tess Coleman / Anna Coleman
2004 Christmas with the Kranks Nora Krank
2005 The Kid & I Herself
2008 Beverly Hills Chihuahua Vivian Ashe
2010 You Again Gail Byer Olsen
2011 The Little Engine That Could (2011) Beverly "Bev" Llais yn unig
2012 From Up on Poppy Hill Ryoko Matsuzaki Llais yn unig
2014 Veronica Mars Gayle Buckley
2015 Spare Parts (2015) Principal Karen Lowry
2018 Halloween (2018) Laurie Strode
2018 An Acceptable Loss Rachel Burke
2019 Knives Out Linda Robinson

Teledu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1977 Quincy, M.E.[11] Girl in Dressing Room Pennod: "Visitors in Paradise"
1977 The Hardy Boys/Nancy Drew Mysteries Mary Pennod: "Mystery of the Fallen Angels"
1977 Columbo Waitress Pennod: "The Bye-Bye Sky High I.Q. Murder Case"
1977–78 Operation Petticoat Lt. Barbara Duran 23 pennod
1978 Charlie's Angels Linda Frey Pennod: "Winning Is for Losers"
1978 The Love Boat Linda Pennod: "Till Death Do Us Part, Maybe/Chubs/Locked Away"
1979 Buck Rogers in the 25th Century Jen Burton Pennod: "Unchained Woman"
1980 Saturday Night Live Host 6 tymor, 4 rhifyn
1981 She's in the Army Now Pvt. Rita Jennings ffilm deledu
1981 Death of a Centerfold: The Dorothy Stratten Story Dorothy Stratten ffilm deledu
1982 Callahan Rachel Bartlett ffilm deledu
1982 Money on the Side Michelle Jamison ffilm deledu
1984 Saturday Night Live Host 9 tymor, 13 pennod
1985 Tall Tales & Legends Annie Oakley Pennod: "Annie Oakley"
1986 As Summers Die Whitsey Loftin ffilm deledu
1989–92 Anything but Love Hannah Miller 56 episodes
1995 The Heidi Chronicles Heidi Holland ffilm deledu
1996 The Drew Carey Show Sioux Pennod: "Playing a Unified Field"
1998 Nicholas' Gift Maggie Green ffilm deledu
2000 Pigs Next Door Clara llais yn unig
2005 A Home for the Holidays TV Program Host ffilm deledu
2012 NCIS Dr. Samantha Ryan 5 pennod[12][13]
2012–18 New Girl Joan Day 5 pennod
2014 Only Human Evelyn Lang ffilm deledu
2015–16 Scream Queens (2015) Dean Cathy Munsch 23 pennod

Cyfres ar y we

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2019 Guest Grumps Hi ei hun Pennod: "Playing Super Mario Party w/ JAMIE LEE CURTIS!"[14]

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol (1984), Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm (1994), seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau (2023), Hasty Pudding Woman of the Year (2000), Jupiter Awards, 'Disney Legends' (2024)[15] .

Cyfeiriadau

  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Jamie Lee Curtis". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jamie Lee Curtis". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jamie Lee Curtis". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jamie Lee Curtis". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jamie Lee Curtis". The Peerage. "Jamie Lee Curtis". "Jamie Lee Curtis". "Jamie Lee Curtis".
  4. Man geni: http://www.huffingtonpost.com/2012/11/22/jamie-lee-curtis-pictures-2012_n_2156096.html.
  5. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  6. "Jamie Lee Curtis Interview: Starring as Herself: Embracing Reality". Reader's Digest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Hydref 2007. Cyrchwyd 17 Hydref, 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. There/Hollywood, tud. 6, 1985, gan Janet Leigh
  8. Casablanca, Ted. "Source: Jamie Lee Curtis Written Out of Father's Will". E News. E News. Cyrchwyd 8 Hydref 2018.
  9. Galwedigaeth: http://www.nydailynews.com/life-style/fashion/fashion-face-off-jamie-lee-curtis-sigourney-weaver-don-identical-dresses-premiere-article-1.439266.
  10. Anrhydeddau: https://www.fotogramas.es/noticias-cine/a61850045/d23-disney-jodie-foster-jamie-lee-curtis-discurso-divertido/.
  11. "Quincy, M.E.: Visitors in Paradise Cast and Crew". Fandango (ticket service). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Hydref 2012. Cyrchwyd May 3, 2011. Text "Fandango " ignored (help); Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. "Fall Preview 2011 Photos: Jamie Lee Curtis on NCIS" Archifwyd 7 Tachwedd 2011 yn y Peiriant Wayback. CBS. 24 Awst 2011.
  13. Bierly, Mandi (25 Awst 2011). "'NCIS': Jamie Lee Curtis will reunite with Mark Harmon". Entertainment Weekly (yn Saesneg). Meredith Corporation. Cyrchwyd 31 Mawrth 2019.
  14. Game Grumps (2019-04-07). "Playing Super Mario Party w/ JAMIE LEE CURTIS!". YouTube. Cyrchwyd 2019-04-07.
  15. https://www.fotogramas.es/noticias-cine/a61850045/d23-disney-jodie-foster-jamie-lee-curtis-discurso-divertido/.