Jill Evans
Jillian Evans Aelod Senedd Ewrop | |
---|---|
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10 Mehefin 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Manylion personol | |
Ganed | Ystrad Rhondda, Sir Forgannwg | 8 Mai 1959
Dinesydd | Cymraes |
Plaid gwleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Syd Morgan |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Morgannwg (nawr yn Prifysgol De Cymru) |
Proffesiwn | Aelod Senedd Ewrop |
Gwefan | http://www.jillevans.net/ |
Gwleidydd Cymreig yw Jillian "Jill" Evans (ganed 8 Mai 1959) sy'n Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, ac sy'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru. Mae hefyd yn gadeirydd CND Cymru.
Gyrfa
Ganed hi yn Ystrad Rhondda yn y Rhondda a'i haddysgu yn Nhonypandy a Phrifysgol Abertawe. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym Mholitecnic Cymru lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 1994 hyd 1996, a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad 1999, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag Eurig Wyn. Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd y Blaid, cymerodd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1]
Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Jill Evans yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[2]
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
- ↑ Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360[dolen marw]
- ↑ "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol Archifwyd 2011-07-23 yn y Peiriant Wayback.
Senedd Ewrop | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru 1999 – presennol gyda John Bufton (ers 2009), Jonathan Evans (1999-2009), Glenys Kinnock (1999-2009), Eluned Morgan (1999-2009), Kay Swinburne (ers 2009) a Derek Vaughan (ers 2009) ac Eurig Wyn (1999-2004) |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Iwan |
Llywydd Plaid Cymru 2010 – presennol |
Olynydd: deiliad |