John Charles
John Charles | |
---|---|
John Charles: Cymru yn erbyn Yr Alban, Parc Ninian, 1954 | |
Ffugenw | Il Gigante Buono |
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1931 Cwmbwrla |
Bu farw | 21 Chwefror 2004 Wakefield |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
Taldra | 188 centimetr |
Pwysau | 89 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Juventus F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Leeds United A.F.C., Hereford United F.C., Merthyr Tydfil F.C., AS Roma, C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Leeds United A.F.C. |
Safle | blaenwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd John Charles (27 Rhagfyr 1931 – 21 Chwefror 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Abertawe — y chwaraewr gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu, yn ôl rhai.
Gyrfa
Fe'i ganwyd yng Nghwmdu, ger Abertawe, a bu'n chwarae dros glwb pêl-droed Leeds United o 1949 i 1957. Yn ystod yr adeg hon, fe sgoriodd 150 o goliau, gan gynnwys 42 o goliau yn y tymor 1953-1954.
Ym 1957 fe'i trosglwyddwyd i'r tîm enwog Eidalaidd, Juventus, am dâl o £65,000, a oedd yn record ar y pryd. Bu'n chwarae dros Juventus am bum mlynedd, gan sgorio 93 o weithiau mewn 155 o gêmau. Enillodd y scudetto (pencampwriaeth y cynghrair Eidalaidd) dair gwaith, a'r Cwpan Eidaleg ddwywaith. Ei lysenw yn yr Eidal oedd Il Gigante Buono, neu Y Cawr Caredig, gan na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r cae trwy gydol ei yrfa.
Ar ôl iddo adael Juventus ym 1962, chwaraeodd dros glwb Leeds United eto, ac A.S. Roma yn yr Eidal, a gorffennodd ei yrfa gyda chlwb Dinas Caerdydd.
Chwaraeodd John Charles am y tro cyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan oedd yn 18 mlwydd a 71 diwrnod o oedran. Charles oedd calon tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan gollodd Cymru y rownd chwarter-derfynol 1-0 i dîm Brasil, enillwyr y twrnamaint—ni chwaraeodd Charles yn y gêm hon oherwydd anaf.
Tra'n hybu llyfr ym Milano yn yr Eidal yn Ionawr 2004, fe ddioddefodd drawiad ar y galon, a bu'n rhaid torri rhan o'i droed cyn ei hedfan yn ôl i Loegr. Yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn, 21 Chwefror, bu farw yn ysbyty Pinderfields yn Wakefield.
Roedd ei frawd Mel Charles hefyd yn beldroediwr rhyngwladol.
Gweler hefyd
- Cliff Jones (g. 7 Chwefror 1935), Cymru, Abertawe a Tottenham Hotspur