Johnny Cash
Johnny Cash | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | J. R. Cash ![]() 26 Chwefror 1932 ![]() Kingsland ![]() |
Bu farw | 12 Medi 2003 ![]() Nashville ![]() |
Label recordio | Sun Records, Charly Records, Columbia Records, American Recordings, House of Cash ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor, gitarydd ![]() |
Adnabyddus am | At Folsom Prison, Folsom Prison Blues, I Walk the Line, Ring of Fire ![]() |
Arddull | canu gwlad, canu gwlad 'outlaw', cerddoriaeth yr efengyl, roc a rôl, rockabilly, y felan, canu gwerin ![]() |
Math o lais | bas-bariton, bariton ![]() |
Taldra | 1.88 metr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr ![]() |
Tad | Ray Cash ![]() |
Mam | Carrie Cloveree Rivers ![]() |
Priod | Vivian Liberto, June Carter Cash ![]() |
Plant | Rosanne Cash, John Carter Cash, Kathy Cash, Cindy Cash, Tara Cash ![]() |
Perthnasau | Rosie Nix Adams ![]() |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Legend, Rock and Roll Hall of Fame, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, Anrhydedd y Kennedy Center, Americana Award for Artist of the Year, "Spirit of Americana" Free Speech Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Cyflawniad Oes Willie Nelson ![]() |
Gwefan | https://johnnycash.com ![]() |
Canwr Americanaidd oedd John R. "Johnny" Cash (26 Chwefror 1932 – 12 Medi 2003) ac awdur, a elwir gan rai yn un o gerddorion mwyaf yr 20g. Cafodd ei fagu yn Dyess, Arkansas, a gallai olrhain ei deulu yn ôl i'r Alban.
Roedd ganddo lais bâs-bariton unigryw ac roedd yn hoff o roi cyngherddau am ddim i garcharorion. Roedd rhai'n ei alw'n "The Man in Black" a chychwynai llawer o'i gyngherddau drwy ddweud, "Hello, I'm Johnny Cash."
Roedd llawer o'i ganeuon yn drist neu'n sôn am faddeuant, Cristnogaeth a phroblemau moesol. Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae: I Walk the Line, Folsom Prison Blues, Ring of Fire, Get Rhythm a Man in Black. Roedd rhai o'i ganeuon yn llawn hiwmor, megis A Boy Named Sue.
Albymau
- The Fabulous Johnny Cash (1959)
- Ride This Train (1960)
- All Aboard the Blue Train (1962)
- Blood, Sweat and Tears (1963)
- I Walk the Line (1964)
- Bitter Tears: Ballads of the American Indian (1964)
- Happiness Is You (1966)
- At Folsom Prison (1968)
- At San Quentin (1969)
- Hello, I'm Johnny Cash (1970)
- Man in Black (1971)
- A Thing Called Love (1972)
- Any Old Wind That Blows (1973)
- Ragged Old Flag (1974)
- One Piece at a Time (1976)
- Gone Girl (1978)
- Rockabilly Blues (1980)
- Johnny 99 (1983)
- Boom Chicka Boom (1990)
- The Mystery of Life (1991)
- American Recordings (1994)

