Joseba Sarrionandia

Joseba Sarrionandia
FfugenwSarri Edit this on Wikidata
LlaisSarrionaindia Korrika.webm Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Iurreta Edit this on Wikidata
Man preswylDurango Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Alma mater
  • Prifysgol Deusto Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, cyfieithydd, bardd, awdur plant, darlithydd, ieithegydd, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata
PerthnasauTelmo Zarra Edit this on Wikidata
Gwobr/auBeterriko Liburua Ohorezko Literatur Aipamena, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Euskadi Awards, Q126725105, Q130742756 Edit this on Wikidata

Awdur o Wlad y Basg yw Joseba Sarrionandia Uribelarrea (ganwyd 13 Ebrill 1958). Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr o gerddi a straeon byrion, yn ogystal â rhai nofelau. Dihangodd o'r carchar yn 1985 a bu'n byw bywyd cudd am 31 mlynedd. Ysgrifennodd a lledaenodd ei weithiau o alltud, o fannau dienw, a llun du a gwyn o fis cyn iddo adael y carchar oedd un o'r ychydig ddelweddau adnabyddadwy ohono. Ddechrau Tachwedd 2016, penododd Sefydliad Etxepare Sarrionandia yn ddarllenydd Basgeg ym Mhrifysgol Habana (Ciwba), a dyna pryd y gwyddys ei fod wedi bod yn byw yn Habana ers sawl blwyddyn. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ar Dachwedd 20, am y tro cyntaf ers 31 mlynedd, cyhoeddwyd llun diweddar ohono, mewn cyfweliad a gyhoeddwyd yn gyfamserol mewn pedwar cyhoeddiad Basgeg (Zuzeu, Berria, Gara a Noticias).

Bywyd

Cafodd ei eni yn Lurreta, Bizkaia. Graddiodd mewn Basgeg (Filologia) ym Mhrifysgol Deusto yn Bilbo,[1] a gweithiodd fel athro Basgeg. Bu'n athro seineg gydag UNED (sefydliad tebyg i'r Brifysgol Agored) yn Bergara a chymerodd ran hefyd ym Mhrifysgol Haf Gwlad y Basg. Cyhoeddwyd rhai o'i weithiau cynharaf mewn cylchgronau megis Zeruko Argia, Anaitasuna, Jakin ac O! Euzkadi. Roedd yn un o aelodau clwb y Pott Banda, ynghyd â Bernardo Atxaga, Manu Ertzilla, Ruper Ordorika, Jon Juaristi, Joxe Mari Iturralde a llawer o lenorion eraill. Daeth yn aelod cynorthwyol o'r Euskaltzaindia, [2] ac roedd hefyd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Ibaizabal. Yn ogystal â chreu gweithiau gwreiddiol, mae hefyd wedi cyfieithu i'r Fasgeg, yn enwedig o lenyddiaeth Saesneg, gan gynnwys cerdd naratif hir Samuel Taylor Coleridge The Rime of the Ancient Mariner, un o gerddi mawr barddoniaeth ramantaidd. Mae hefyd wedi cyfieithu gweithiau awduron gan gynnwys TS Eliot, Manuel Bandeira a Fernando Pessoa.[3]

Sarrionandia, yn 1985

Yn 1980, oherwydd ei fod yn aelod o ETA, cafodd ei arestio gan heddlu Sbaen a'i ddedfrydu i 27 mlynedd yn y carchar. Fel y mae'n crybwyll yn ei waith, cafodd ei arteithio am wyth diwrnod yn ystod y carchariad hir hwnnw.[4] Ers hynny, mae wedi disgrifio realiti bod yn garcharor sawl gwaith yn ei waith. Y flwyddyn honno enillodd nifer o wobrau llenyddol. Ym 1981, cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o gerddi Izuen gordelekuetan barrena. Roedd y llyfr yn atseinio gyda darllenwyr Basgeg, a dylanwadodd yn gryf ar lenorion newydd; roedd ei gerdd gynnar Bitakora kaiera hefyd yn cael ei ystyried yn ryw fath o faniffesto.

Llwyddodd i ddianc o'r carchar ar ddiwrnod San Fermin yn 1985, gan fanteisio ar gyngerdd a roddwyd gan y canwr Imanol y tu mewn i garchar Martuten, wrth iddo a'i gyd-garcharor Iñaki Pikabea guddio mewn uchelseinydd.[5] Mae Sarri, Sarri, cân enwog gan y band Kortatu yn nodi'r digwyddiad yma. Bu'n byw fel ffoadur (yn ôl deddfau Sbaen, hyd yn oed bod droseddau wedi dod i ben yn statudol[6]) ac, mewn gwirionedd, bywyd y ffoadur alltud fu prif thema arall ei waith, fel y gwelir, er enghraifft, yn y nofel Lagun Izoztua. Er ei fod yn byw yn ddirgel, parhaodd i gyhoeddi llyfrau[7] a chydweithiodd â nifer o gerddorion: Mikel Laboa, Ruper Ordorika, Fermin Muguruza a llawer o gerddorion eraill yr anfonodd ei gerddi atynt trwy lythyrau (gweler adran "Rhestr Caneuon" yr erthygl hon). Cyhoeddodd y cwmnïau recordiau Esan Ozenki a Txalaparta yr albwm Hau da ene ondasun guzia ar y cyd, gyda cherddi’r awdur wedi’u gosod i gerddoriaeth.

Ym mis Hydref 2011, dyfarnodd Llywodraeth Gwlad y Basg Wobr Euskadi Literatura am y llyfr Moroak gara behelaino artean?, ond cyhoeddwyd y byddai'n rhaid dal yr arian yn ôl nes i'w sefyllfa gyfreithiol dod yn glir o flaen llys.[8] Pan ddywedodd Swyddfa'r Erlynydd Cyhoeddus yn Llys Cenedlaethol Sbaen nad oedd achos iddo ateb,[9] derbyniodd Sarrionandia y wobr ariannol. [[Fitxategi:Sarrionaindia_Korrika.webm|bawd| Recordiad llais o Joseba Sarrionandia yn darllen y neges a ysgrifennwyd ar gyfer Korrika 2017. Iruñea, Ebrill 9, 2017]] Ddechrau Tachwedd 2016, penododd Sefydliad Basgaidd Etxepare Sarrionandia yn ddarllenydd Basgeg ym Mhrifysgol Habana (Ciwba), ar ôl proses ddethol lem, a dyna pryd y daeth yn hysbys ei fod wedi bod yn Habana ers blynyddoedd. Ychydig ddyddiau ar ôl hynny, ar Dachwedd 20, am y tro cyntaf ers 31 mlynedd, cyhoeddwyd llun diweddar ohono, mewn cyfweliad a gyhoeddwyd yn gyfamserol mewn pedwar cyhoeddiad Basgeg (Zuzeu, Berria, Gara a <i>Noticias</i>). Roedd y newyddiadurwr Jose Goitia wedi cynnal y cyfweliad a chymryd y llun ddau ddiwrnod ynghynt.

Gydag Ines Osinaga yn y sioe "Olatu arteko txalupa arraroa" (Clwb Victoria Eugenia, Donostia, 2022).

Ers Ebrill 19, 2021, mae Joseba Sarrionaindia yn byw yng Ngwlad y Basg eto. Fel yr adroddwyd gan wefan lleol ardal Durango, Anboto .org, mae'r awdur yng Ngwlad y Basg yn ymweld â theulu a ffrindiau. Dywedodd wrth y papur newydd wythnosol ei fod wedi gweld bod y wlad wedi newid, a’i fod yn gweld eisiau ei dad ac aelodau eraill o’r teulu a’i ffrindiau a fu farw.[10][11][12]

Yn 2022 cyhoeddodd y stori gyda darluniau Munduari bira eman zion ontzia (Y cwch a wnaeth gylchdaith o'r byd) gyda'r darlunydd enwog o Giwba, Ares.

Gydag Ines Osinaga, dechreuodd berfformio'r sioe gyngerdd "Olatu arteko txalupa arraroa" (Cwch rhyfedd rhwng y tonnau) yn 2022. [13]

Gweithiau creadigol

Barddoniaeth

Sarrionandia (Yn nigwyddiad Hitzez eta Ahotsez, 2022)
  • Izuen gordelekuetan barrena. Bilbo, 1981.
  • Intxaur azal baten barruan. Eguberri amarauna. Cyhoeddwyd yn Lizarra, 1983.
  • Alkohola poemak. Iruñea, 1984. Casgliad o gerddi wedi eu cyfieithu ganddo.
  • Marinel zaharrak. Donostia, 1987.
  • Gartzelako poemak. Iruñea, 1992.
  • Hnuy illa nyha majah yahoo (poemak 1985-1995). Donostia, 1995.
  • Hau da ene ondasun guzia. Tafalla, 1999. Disg a llyfr.
  • XX. mendeko poesia kaierak: Joseba Sarrionandia. Iruñea, 2002. Casgliad dan olygyddiaeth Koldo Izagirre.
  • Hilda dago poesia? Iruñea, 2016. "Ydy barddoniaeth wedi marw?" - casgliad dwyieithog yn y Fasgeg a'r Sbaeneg.
  • Gure oroitzapenak. Donostia, 1987, 2018. Disg a llyfr.

Naratifau

  • Narrazioak. Donostia, 1983.
  • Atabala eta euria. Donostia, 1986.
  • Ifar aldeko orduak. Donostia, 1990.
  • Han izanik hona naiz. Donostia, 1992.
  • Miopeak, bizikletak eta beste langabetu batzuk. Donostia, 1995.
  • Lagun izoztua. Donostia, 2001.
  • Kolosala izango da. Tafalla. 2003.
  • Narrazio guztiak (1979-1990). Donostia, 2011.
  • Herejeen alaba. Gan Ander Berrojalbiz a Joseba Sarrionandia. Pamiela, 2017.[14]
  • Munduari bira eman zion ontzia, llyfr gyda darluniau, 2022. Lluniau gan Ares.
    Joseba Sarrionandia gyda Aristides Hernandez 'Ares' (yn y canol), yn Habana, gyda Bernardo Atxaga eta Pello Elzaburu ymhlith y cwmni.[15]

Ysgrifau

  • Ni ez naiz hemengoa. Pamiela, Iruñea, 1985.
  • Marginalia. Elkar, Donostia, 1988.
  • Ez gara gure baitakoak. Pamiela, Iruñea, 1989.
  • Hitzen ondoeza. Txalaparta, Tafalla, 1997.
  • Akordatzen. Txalaparta, Tafalla, 2004.
  • Moroak gara behelaino artean?. Pamiela, Iruñea, 2010.
  • Lapur banden etika ala politika. Pamiela, Iruñea, 2015.
  • Durangoko Azoka 1965-2015. Gerediaga Elkartea, Durango, 2015. Gwaith ar y cyd â Jesus Mari Arruabarrena a Txelu Angoitia.
  • Bizitzea ez al da oso arriskutsua?. Pamiela, Iruñea, 2018.
  • Airea ez da debalde: Habanako gaukaria. Pamiela, Iruñea, 2019.

Llenyddiaeth plant

  • Izeba Mariasunen ipuinak. Elkar, Donostia, 1989.
  • Ainhoari gutunak. Elkar, Donostia, 1990.
  • Harrapatutako txorien hegalak. Baigorri argitaletxea, Bilbo, 2005. Fersiynau Basgeg a Saesneg.
  • Gau ilunekoak. Elkar, Donostia, 2008.
  • Munduko zazpi herrialdetako ipuinak. Pamiela, Iruñea, 2008.
  • Idazlea zeu zara, irakurtzen duzulako. Xangorin, Donostia, 2010.

Comics

  • Zitroi ur komikiak: Joseba Sarrionandia komikitan. Gweisg Txalaparta a Napartheid, 2000. Ar y cyd â Koldo Almandoze.

Cyfieithiadau (dan ffugenwau)

Mae Joseba Sarrionandia hefyd wedi cyfieithu gweithiau sawl awdur , ac mae’n sôn amdanyn nhw'n aml yn ei lyfrau:

Mewn ieithoedd eraill

Mae gweithiau Sarrionandia wedi'u cyfieithu i sawl iaith estron:

Blodeugerddi barddoniaeth
Naratifau
Ni ez naiz hemengoa (Dw i ddim yn dod o'r ardal hon)

Cydweithio newyddiadurol

  • Gyda chylchgrawn Pott.
  • Gyda chylchgrawn Zeruko Argia.
  • Gyda chylchgrawn Ibaizabal.
  • Gyda chylchgrawn Anaitasuna. 14 erthygl, 1976-1980[16]
  • Gyda chylchgrawn Nabarra.
  • Gyda chylchgrawn Xaguxarra.

Beirniadaeth lenyddol

Mae adleisiau o waith Joseba Sarrionandia i'w cael mewn beirniadaeth lenyddol Basgeg[17][18]. Mae amryw o awduron ei genhedlaeth[19][20] a rhai o'r cenedlaethau a ddaeth yn ddiweddarach[21][22][23] wedi sôn amdano droeon.

Gwobrau

  • Gwobr Ignacio Aldekoa yn 1980 am y stori Maggie, indazu kamamila.
  • Gwobr Resurreccion Maria Azkue yn 1980 am Izuen gordelekuetan barrena.
  • Cystadleuaeth Stori 1af Cyngor Dinas Bilbao yn 1980 ar gyfer y stori Enperadore eroa.
  • Gwobr y Beirniad yn 1986 am Atabala eta euria ac yn 2001 am Lagun izoztua.
  • Gwobr Euskadi yn 2011, ym maes traethodau / ysgrifau, am Moroak gara behelaino artean?

Sioeau

Dawns

Barddoniaeth wedi ei gosod i gerddoriaeth

Dramâu

Ffilmiau

Rhestr caneuon

Mae cerddi Joseba Sarrionaindia wedi dod yn eiriau llawer o ganeuon:

Cyfeiriadau

  1. Euskal idazleak = Basque Writers = Escritores en lengua vasca, Euskal Editoreen Elkartea, 1998, ISBN 84-7086-357-6
  2. Euskaltzaindia, Organigrama -> Euskaltzain urgazleak, http://www.euskaltzaindia.net/index.php?option=com_content&view=article&id=798:euskaltzain-urgazleak-s&catid=136&Itemid=405&lang=eu
  3. "Una tesis de la UPV analiza por primera vez las traducciones de Sarrionaindia", El País, 2011-11-26, http://www.elpais.com/articulo/pais/vasco/tesis/UPV/analiza/primera/vez/traducciones/Sarrionaindia/elpepuespvas/20111126elpvas_14/Tes
  4. Sarrionaindia, Joseba (2019), Airea ez da debalde, Pamiela, pp. 61-62, ISBN 978-84-9172-135-2
  5. "1985: Cronología", Argia, http://www.argia.com/siglo/crono/1985.htm
  6. cadenaser.com (2011-10-03), Los delitos de Joseba Sarrionandia han prescrito, http://www.cadenaser.com/espana/articulo/delitos-joseba-sarrionandia-han-prescrito/csrcsrpor/20111003csrcsrnac_20/Tes
  7. EiTB (2011-10-3), Joseba Sarrionandia, ihes eginda dagoen idazle baten biografia, http://www.eitb.eus/eu/kultura/literatura/osoa/749175/joseba-sarrionandia-ihes-eginda-dagoen-idazle-baten-biografia/
  8. EiTB (2011-10-3), Joseba Sarrionandia, euskarazko saiakera Literatura saria, http://www.eitb.eus/eu/kultura/literatura/osoa/748810/joseba-sarrionandia-euskarazko-saiakera-literatura-saria/
  9. "Sarrionandia no tiene causas pendientes que justifiquen la retención del importe del premio", Gara, 2011-11-22, http://www.gara.net/azkenak/11/305143/es/Sarrionandia-no-tiene-causas-pendientes-que-justifiquen-retencion-importe-premio, adalwyd 2024-11-25
  10. "Joseba Sarrionandia Iurretara bueltatu da lau hamarkadaren ostean - Iurreta" (yn eu), Anboto.org, https://anboto.org/iurreta/1619112033308-joseba-sarrionandia-iurretara-bueltatu-da-lau-hamarkadaren-ostean
  11. SL, TAI GABE DIGITALA (2021-04-22), "Ongietorri mezuak Joseba Sarrionandiari sare sozialetan" (yn eu), naiz:, https://www.naiz.eus/eu/info/noticia/20210422/ongietorri-mezuak-joseba-sarrionandiari-sare-sozialetan
  12. Berria, "Joseba Sarrionandia Euskal Herrian da" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/albisteak/196646/joseba-sarrionandia-euskal-herrian-da.htm
  13. "Olatu arteko txalupa arraroa" (yn eu-es), www.victoriaeugenia.eus, https://www.victoriaeugenia.eus/programacion/espectaculo.php?evento=4728
  14. Sierra, Elena (2017-11-11), "Las hojas que nos trae el otoño" (yn es), El Correo: p. 52
  15. Onaindia, Markel (2023-02-21), "Habanara itzuli da Joseba Sarrionandia" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/albisteak/224666/habanara-itzuli-da-joseba-sarrionandia.htm
  16. Sarrionaindia, Joseba (1976-1980), "Anaitasuna aldizkaria - Bilaketa emaitzak", www.euskaltzaindia.eus, https://www.euskaltzaindia.eus/index.php?option=com_anaitasuna&Itemid=602&view=frontpage&izenburua=&autoritatea=251&gaia_id=&noiztik=&nora=
  17. sarrionandia kritiken hemeroteka » Bilaketa, https://kritikak.armiarma.eus/?page_id=4003&non=oro&tes=joseba sarrionandia
  18. Etxeberria, Hasier (2002), Bost idazle, Alberdania, ISBN 84-95589-41-9, OCLC 433302856, https://www.worldcat.org/oclc/433302856
  19. Mintegi, Laura, "Nor bere egoerak bizi du" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/2200/034/001/2021-04-25/nor-bere-egoerak-bizi-du.htm
  20. Iturralde, Joxemari, "Gaur ez dut ezer ikusi" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/2217/034/002/2021-04-25/gaur-ez-dut-ezer-ikusi.htm
  21. Arrese, Gorka, "ZURE ONDOAN KOBLAKA" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/2036/032/001/2021-04-25/zure-ondoan-koblaka.htm
  22. Berria, "Nola irakurri du Sarrionandia haren osteko belaunaldiak?" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/albisteak/196734/nola-irakurri-du-sarrionandia-haren-osteko-belaunaldiak.htm
  23. Astiz, Iñigo, "Sarrionandia: eta itzuli izan balitz, zer?" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/albisteak/196637/sarrionandia-eta-itzuli-izan-balitz-zer.htm