Jotunheimen
![]() | |
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jotunheim ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Norwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,500 km² ![]() |
Uwch y môr | 2,469 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 61.63°N 8.3°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Scandinavian Mountains ![]() |
Mae Jotunheimen yn gadwyn o fynyddoedd uchel ac anghysbell yn ne canolbarth Norwy. Mae'r gadwyn yn cyrraedd ei phwynt uchaf yn Glitterinden (2472m neu 8110 troedfedd), y mynydd uchaf yn Norwy.
Mae'r rhan fwyaf o'r mynyddoedd yn gorwedd yn y parc cenedlaethol o'r un enw.
Chwedloniaeth
Ystyr llythrennol yr enw Jotunheimen (Hen Norseg Jötunheim) yw "Cartref (neu wlad) y Cewri" (jötun "cewri" + heim(en) "cartref, trigfa"). Ym mytholeg y Llychlynwyr mae'n gartref i'r cewri. Fe'i sefydlwyd gan y cawr cyntefig Börr ar ôl i'r cewri cyntaf gael eu gorchfygu gan y duwiau Llychlynaidd. Yno mae "Cewri'r Rhew" yn byw ac mae duwiau ac arwyr fel Odin, Loki a Thor yn mynd yno i geisio gwybodaeth neu drysor. Pennaeth cewri Jotunheimen yw Geirrod. Er bod y cewri'n fawr a nerthol mae'r duwiau ac arwyr yn eu trechu nhw bob tro, naill ai trwy hud neu, yn amlach, trwy eu cyfrwysdra.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Jotun600.jpg/250px-Jotun600.jpg)