Kategoria Superiore

Kategoria Superiore
Delwedd:Kategoria Superiore Logo.svg
GwladAlbania
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd19 Ionawr 1910; 114 o flynyddoedd yn ôl (1910-01-19)
Nifer o dimau10 (from 2014–15)
Lefel ar byramid1
Disgyn iFirst Division
CwpanauAlbanian Cup
Albanian Supercup
Cwpanau rhyngwladolUEFA Champions League
UEFA Europa League
Pencampwyr PresennolKF Partizani Tiranë (teitl 1af)
(2018-19)
Mwyaf o bencampwriaethauTirana (24 teitl)
Prif sgoriwrVioresin Sinani (207 goals or 208 goals, acccoring to Albanian media)[1]
Partner teleduSuperSport Albania a Radio Televizioni Shqiptar
GwefanGwefan swyddogol
2019–20 Albanian Superliga

Mae Superliga Albania (Albaneg: Kategoria Superiore) yn gynghrair broffesiynol ar gyfer clybiau pêl-droed dynion. Dyma frig system gynghrair pêl-droed Albania. Mae'r gynghrair yn cynnwys 10 clwb, ac mae'n gweithredu ar system o esgyn a disgyn gyda'r clwb isaf yn disgyn i Gynghrair Gyntaf Albania. Mae'r tymhorau'n rhedeg o fis Awst i fis Mai, gyda thimau'n chwarae 36 gêm bob un (gan chwarae pob tîm yn y gynghrair bedair gwaith, ddwywaith yn y cartref a dwywaith i ffwrdd).

Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1930 fel Pencampwriaeth Genedlaethol Albania yn ystod teyrnasiad y brenin Zog, yn fuan ar ôl creu Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Ers 1930, mae 43 clwb wedi cystadlu mewn yn y gystadlaethau cydnabyddedig, ond dim ond naw clwb sydd wedi ennill y teitl: KF Tirana (24), FK Dinamo Tirana (18), FK Partizani Tirana (15), KF Vllaznia Shkodër (9), KF Skënderbeu Korçë (6), KF Elbasani (2), Flamurtari Vlorë (1), KF Teuta Durrës (1) a FK Kukësi (1). Y pencampwyr presennol yw FK Kukësi, a enillodd eu teitl cyntaf yn 2016-17.

Hanes Cynnar

Cyflwynwyd pêl-droed gyntaf i Albania gan offeriad Seisnig-Malteg o'r enw Gut Ruter a ymwelodd â'r coleg Saveriaidd yn Shkodra yn 1908. Y clwb pêl-droed cyntaf yn Albania oedd Indipendenca, a sefydlwyd yn Shkodra yn 1912 gan Palokë Nika.[2] Cynhaliwyd y gêm 90-munud cyntaf llawn gyntaf ym mis Hydref 1913 ehwng Indipendenca Shkodra a'r thîm o lynges Awstria-Hwngari. Ystyrir hi fel y gêm ryngwladol gyntaf i gael ei chwarae yn Albania, ond collodd Indipendenca oedd 1-2 Indipendenca. Sgoriodd capten a sylfaenydd y clwb, Palokë Nika yr unig gôl i'r Albanaiaid.[3]

Twrnamaint Pêl-droed ffair Fier, 1911 Yn 2012 darganfu haneswyr bod twrnamaint pêl-droed wedi digwydd yn Albania yn 1911, rhyw 19 mlynedd cyn sefydlu Pencampwriaeth Genedlaethol Albania a Ffederasiwn Pêl-droed Albania, FSHF. Cynhaliwyd Twrnamaint Pêl-droed Ffair dinas Fier (Albaneg: Turneu Futbollistik i Panairit te Fierit) yn Rahije, Fier tra roedd Albania yn dal o dan Ymerodraeth Otomanaidd. Cystadlu 8 tîm: Tirana, Elbasani, Kavaja, Berati, Peqini, Vlora, Fieri a Lushnja. Enillodd Tirana y twrnamaint ar ôl trechu Peqini 6-1 yn y rownd derfynol. Nid yw'r Ffederasiwn Pêl-droed Albania nac UEFA yn cydnabod y twrnamaint yn swyddogol. Ni drefnod y FSHF twrnamaint gan nad sefydlwyd nes 1930.[4]

Pencampwriaeth yr Ail Ryfel Byd Ymosodwyd Albania gan luoedd Eidal yr unben Mussolini yn Ebrill 1939 a dorrodd yr Ail Ryfel Byd yn fuan wedyn ym mis Medi. O ganlyniad rhoddodd y FSHF derfyn ar drefnu cystadleuaeth (fel ddigwyddodd mewn sawl gwlad arall). Er gwaethaf y Rhyfel, cynhaliwyd tri pencampwriaethau rhwng 1939 a 1942 gyda Tirana yn ennill y pencampwriaeth yn 1939 a 1942 ac Shkodra yn 1940. Er gwaethaf galwadau i gydnabod y pencampwriaeth mae'r FSHF wedi gwrthod rhoi statws ffurfiol iddynt.[5]

Enillwyr Pencampwriaeth

Gêm Kukes vs Elbasani, 2014

Hyd at 2017-18 dyma'r nifer o bencampwriaethau mae timau wedi ennill:

Tymor 2017–18

Mae'r timau isod yn cystadlu yn y Superliga yn nhymor 2017-18.[6]

Clwb Tref
Flamurtari Vlorë Vlorë
Kamza Kamëz
Kukësi Kukës
Laçi Laç
Luftëtari Gjirokastër Gjirokastër
Lushnja Lushnjë
Partizani Tirana Tirana
Skënderbeu Korçë Korçë
Teuta Durrës Durrës
Vllaznia Shkodër Shkodër

Cyfeiriadau

  1. Admir Uruçi (12 January 2012). "Vioresin Sinani thotë mjaft: E mbyll si futbollist në fund të këtij edicioni" [Vioresin Sinani says enough: I finish as a player at the end of the season] (yn Albanian). Panorama Sport. Cyrchwyd 1 January 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. name="Shkodra Sport">Gjergj Kola. "Palokë Nika – personazhi historik i sportit Shqiptar" (yn Albanian). Shkodra Sport. Cyrchwyd 2014-02-05.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. name="Vllaznia">"Një historik i shkurtër i futbollit në Shkodër" (yn Albanian). Vllaznia.al. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2014-02-05.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Sport Ekspres, 14 February 2012, page 7 Archifwyd 26 May 2012 yn y Peiriant Wayback.
  5. AFA's General Assembly: War championships are not legitimate Archifwyd 20 February 2014 yn y Peiriant Wayback.
  6. "Albania Superliga: Summary". Soccerway. Perform. Cyrchwyd 23 February 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.