actor teledu, actor ffilm, actor, sgriptiwr, actor llwyfan
Gwobr/au
Gwobr Lucy, Gwobr 'Walk of Fame' Canada
Mae Kim Victoria Cattrall (ynganer /kəˈtræl/, yn odli gyda tal; ganed 21 Awst1956) yn actores Seisnig-Canadaidd. Mae'n adnabyddus am chwarae rhan Samantha Jones yng nghyfres gomedi / rhamant HBO, Sex and the City, ac am chwarae'r prif rannau yn ffilmiau'r 1980auPolice Academy a Mannequin.
Ei Bywyd Cynnar
Ganwyd Cattrall yn Widnes, Swydd Gaer, Lloegr, yn un o bedwar o blant. Roedd ei mam, Shane, yn ysgrifenyddes a'i thad, Dennis yn beiriannydd adeiladu. Pan oedd Cattrall yn llai na blwydd oed, ymfudodd ei theulu i Courtenay, Columbia Brydeinig, Canada. Pan oedd yn 11 oed, dychwelodd i Loegr pan oedd ei mamgu yn sal, ac aeth i astudio yn y London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA), cyn dychwelyd i Ganada pan oedd yn 16 oed er mwyn cwblhau ei blwyddyn olaf yn ysgol uwchradd.