Lee Miller
Lee Miller | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ebrill 1907 Poughkeepsie |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1977 o canser Chiddingly |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gohebydd rhyfel, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, model, newyddiadurwr, arlunydd, ffotograffydd ffasiwn, ffotograffydd |
Mudiad | Swrealaeth |
Priod | Roland Penrose, Aziz Eloui Bey |
Partner | Man Ray |
Plant | Antony Penrose |
Gwefan | http://www.leemiller.co.uk/ |
llofnod | |
Roedd Elizabeth "Lee" Miller, Lady Penrose (23 Ebrill 1907 – 21 Gorffennaf 1977) yn fodel ffasiwn lwyddiannus yn Efrog Newydd yn y 1920au cyn symud i Baris ble bu'n rhan o'r grŵp celfyddydol y Swrrealyddion
Aeth ymlaen i fod yn ffotograffydd a newyddiadurwraig adnabyddus yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cofnodi bomio Llundain, rhyddhau Paris a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau.
Bywyd cynnar
Ganwyd Lee Miller ym Poughkeepsie ger Efrog Newydd. Daeth hi'n arfer ag edrychiad a chwant dynion yn ifanc iawn. Roedd ei thad yn ffotograffiaeth amaturiaid a'i pherswadiodd i fodelu yn noeth. Pan roedd hi'n 8 mlwydd oed fe'i threisiwyd wrth aros gyda ffrind y teulu yn cael ei heintio gyda hadlif (gonorrhea). Cyn dyfeisio penisilin bu'r driniaeth am yr haint yn hynod o annifyr yn arbennig i ferch mor ifanc a oedd wedi dioddef ymosodiad mor ffiaidd.[1]
Model
Yn 19 oed, bu bron iddi gael ei tharo gan gar wrth groesi'r stryd yng nghanol Efrog Newydd, yn ffodus fe'i thynnwyd yn ôl mewn pryd gan ddyn a oedd digwydd cerdded yn agos. Y dyn oedd Condé Nast cyhoeddwr cylchgrawn ffasiwn Vogue, yn sylwi ar ei harddwch, fe'i gwahoddwyd i fodela i Vogue.[2][3]
Ymddangos ar y clawr ym Mawrth 1927 ac fe ddaeth yn un o'r modelau mwyaf llwyddiannus y cyfnod.[4]
Daeth ei gyrfa i ben yn dilyn sgandal pan ddefnyddiwyd llun ohoni i hysbysebu padiau mislif merched.[5]
Ffotograffiaeth
Ym 1929, teithiodd Miller i Baris gyda'r bwriad o fod yn brentis i'r arlunydd a ffotograffydd swrrealaidd Man Ray. Er i Man Ray mynnu ar y dechrau nad oedd yn hyfforddi myfyrwyr, fe ddaeth Miller yn fodel, gydweithiwr a chariad iddo.[1]
Tra ym Mharis, fe ddechreuodd ei stiwdio ffotograffig ei hun, yn aml yn cymryd drosodd prosiectau Man Ray er mwyn iddo fo ganolbwyntio ar beintio. Mae llawer o'r ffotograffau a brodolwyd i Man Ray wedi'u tynnu gan Lee Miller. Gyda Man Ray datblygydd y dechneg ystafell dywyll o heulo (solarisation) printiau. Ymhlith ei gylch o ffrindiau oedd Pablo Picasso, Paul Éluard, a Jean Cocteau, ymddangosodd mewn ffilm Cocteau Le Sang d'un Poète (Gwaed y bardd) ym 1930.[6]
Gadwodd Man Ray ym 1932, yn dychwelyd i Efrog Newydd i sefydlu stiwdio ffotograffiaeth lwyddiannus gyda'i brawd Erik yn cynorthwyo yn yr ystafell dwyll.
Ym 1934, rhoddodd y gorau i'w stiwdio i briodi dyn busnes o'r Aifft Aziz Eloui Bey a oedd wedi dod i Efrog Newydd i brynu offer ar gyfer rheilffyrdd ei wlad. Symudodd i fyw yn Yr Aifft gyda'i gŵr, er i Miller beidio â gweithio fel ffotograffydd yn ystod y cofnod yma, tynnodd nifer o luniau yn cynnwys Portrait of Space, (1937) a dynnwyd o babell yn yr anilawch a ystyrir ymhlith ei delweddau swrrealaidd mwyaf nodweddiadol. Erbyn 1937 roedd Miller wedi syrffedu ar fywyd yn yr Aifft a dychwelodd i Baris ble cyfarfu â'r peintiwr swrrealaidd o Sais Roland Penrose a briododd yn ddiweddarach.
Yr Ail Ryfel Byd
Ar ddechrau'r rhyfel, roedd Miller yn byw yn Llundain gyda Penrose pan ddechreuodd bomio'r ddinas. Anwybyddodd alwadau ei ffrindiau a theulu i ddychwelyd i'r Unol Daleithiau a dechreuodd gyrfa newydd fel newyddiadurwraig ffotograffig ar gyfer Vogue. Fe'i chydnabuwyd gan fyddin yr Unol Daleithiau fel ffotograffydd swyddogol a chydweithiodd gyda'r ffotograffydd David E. Scherman o gylchgrawn Life.
Teithiodd i Ffrainc yn llai na mis ar ôl D-Day a chofnodydd y defnydd cyntaf o napalm yn ystod brwydr Sant-Maloù, rhyddhau Paris, brwydr Alsace a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau. Mae llun o Miller a dynnwyd gan Scherman ohoni'n gorwedd mewn bath Adolf Hitler yn un o'r delweddau eiconig y bartneriaeth Miller-Scherman.[7]
Hefyd yn ystod cyfnod y rhyel tynnodd Miller luniau o blant yn marw mewn ysbyty yn Fienna, bywyd cefn gwlad Hwngari a dienyddio László Bárdossy, cyn brif weinidog Hwngari gan sgwad saethu. Ar ôl y rhyfel gweithiodd i Vogue am ddwy flynedd arall ar ffasiwn a sêr y byd adloniant.
Dwyrain Sussex
Ar ôl dychwelyd i Loegr o'r rhyfel, dechreuodd Miller ddioddef o iselder – yr hyn yr elwir heddiw yn post-traumatic stress syndrome. Dechreuodd yfed yn drwm ac roedd yn ansicr am y dyfodol.
Ym 1946, teithiodd gyda Roland i'r Unol Daleithiau, ble ymwelodd â Man Ray. Pan ddarganfuddodd roedd hi'n beichiog gyda ei unig plentyn, Anthony, ysgarodd â Eloui Bey ac phroidodd Penrose ym 1947. Symudodd y cwpl i fyw yn Nwyrain Sussex ac yn y blynyddoedd canlynol fe ddaeth y tŷ yn atyniad i arlunwyr enwog gyda Picasso, Man Ray, Henry Moore, Eileen Agar, Jean Dubuffet a Max Ernst ymhlith yr ymwelwyr.
Roedd cof ei phrofiadau yn ystod y rhyfel, yn arbennig erchyllterau Buchenwald a Dachau yn ei phonei am weddill ei hoes.[8]
Bu farw Miller o ganser yn Tŷ Fferm Farley, Chiddingly, Dwyrain Sussex, ym 1977, yn 70 oed.
Ail ddarganfod ac enwogrwydd
Doedd Anthony Penrose ddim yn gwybod am hanes ei fam a'i phrofiadau rhyfel nes iddo ddarganfod ei ffotograffau a llythrennau mewn bocsys yn atig Fferm Fairley ar ôl ei marwolaeth hi. Yn 1985 ysgrifennodd The Lives of Lee Miller - bywgraffiad o'i fam a chydweithiodd gyda nifer o raglenni dogfen ac arddangosfeydd o'i waith sydd wedi dod a hanes Lee Miller a'i ffotograffiaeth i sylw'r byd. Mae hi bellach yn cael ei gweld fel un o fawrion yn hanes ffotograffiaeth ac yn eicon ffeministaidd
Yn 2023 ymddangosodd y ffilm Hollywood Lee am fywyd Lee Miller gyda Kate Winslet yn y brif ran. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ail ran o'i bywyd a gwaith fel ffotograffydd rhyfel ac wedi'i seilio'n bennaf ar lyfr Anthony.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Darwent, Charles (27 January 2013). "Man crush: When Man Ray met Lee Miller". The Independent. Cyrchwyd 9 May 2014.
- ↑ http://www.theguardian.com/artanddesign/2013/apr/22/lee-miller-war-peace-pythons
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-27. Cyrchwyd 2014-09-19.
- ↑ "Lee Miller: Portraits". National Portrait Gallery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-02. Cyrchwyd 16 June 2014.
- ↑ "Photographer Lee Miller and Kotex menstrual pads".
- ↑ MacWeeney, Antony; Penrose, Anthony (2001). The Home of the Surrealists: Lee Miller, Roland Penrose, and Their Circle at Farley Farm. t. 31. ISBN 9780711217263.
- ↑ Dark secret of the woman in Hitler's bathtub: How war photographer Lee Miller was raped as a child by a relative and forced to pose naked by her father, by David Leafe. Published 12 March 2013, retrieved 8 July 2013
- ↑ Prose, Francine (2002). The Lives of the Muses. Perennial. ISBN 0-06-019672-6.
Dolenni allanol
- Archif Lee Miller
- Tŷ Farley – ei hen dŷ yn Ne Lloegr[dolen farw]
- The Lee Miller file by Sanchia Berg, BBC, gwasanaeth cudd MI5 yn sbio ar Miller
- Six Pictures Of Lee Miller Archifwyd 2015-04-26 yn y Peiriant Wayback Sioe gerddorol am Miller
- Looking Down on Lee Miller: Carolyn Burke’s Lee Miller: A Life Henry Edward Hardy, Scanlyze
- The look of the moment gan Ali Smith yn The Guardian
- The Art of Lee Miller, Amgeuddfa Victoria ac Albert
- Surrealism Reviewed llyfr sain gyda Lee Miller