Legio XIII Gemina

Legio XIII Gemina
Enghraifft o:Lleng Rufeinig Edit this on Wikidata
LleoliadKnin Edit this on Wikidata
SylfaenyddIŵl Cesar Edit this on Wikidata
GwladwriaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lleng Rufeinig oedd Legio XIII Gemina ("Efaill"). Codwyd y lleng gan Iŵl Cesar yn 57 CC ar gyfer ei ymgyrch yng Ngâl, a'i symbol oedd y llew. Hon oedd y lleng oedd gyda Cesar pan groesodd afon Rubicon i'r Eidal yn 49 CC, gan ddechrau y rhyfel cartref yn erbyn Pompeius.

Ymladdasant dros Cesar ym mrwydrau Dyrrhachium a Pharsalus. Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Pompeius. chwalwyd y lleng a rhoddwyd tiroedd i'r hen filwyr, on yn 46 CC, fe'i hail-ffurfiwyd i ymladd yn Affrica. Wedi ennill brwydrau Thapsus a Munda, chwalwyd y lleng eto.

Ail-ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yr ymerawdr Augustus yn ddiweddarach, yn 41 CC. a chafodd yr enw Gemina. Yn 16 CC, symudwyd y lleng i dalaith Pannonia. Wedi i Publius Quinctilius Varus gael ei orchfygu gan y llwythau Almaenaidd ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn 9 OC, symudwyd y lleng i Augusta Vindelicorum (Augsburg heddiw). Yn 45, gyrrodd yr ymerawdr Claudius y lleng yn ôl i Pannonia.

Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdr, 69, cefnogodd y lleng Otho, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius. Wedi i Otho gael ei orchfygu, cefnogodd y lleng Vespasian yn erbyn Vitellius, gan ymladd yn Ail Frwydr Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius, yn fuddugol y tro hwn.

Dan yr ymerawdwr Trajan, ymladdasant yn erbyn y Daciaid. Ceir y cofnod olaf am y lleng yn y Notitia Dignitatum, tua 400, pan oedd ar afon Ewffrates.