Legio XX Valeria Victrix
Enghraifft o: | Lleng Rufeinig |
---|---|
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleng Rufeinig oedd Legio XX Valeria Victrix (Yr Ugeinfed Leng Valeria Victrix) a godwyd gan Augustus, yn ôl pob tebyg, rywbryd ar ôl 31 CC. Gwasanaethai yn nhaleithiau Rhufeinig Hispania, Illyricum, a Germania cyn cymryd rhan yng ngoresgyniad de Prydain (Britannia) yn O.C. 43, lle arosodd hyd o leiaf dechrau'r 4g. Baedd oedd arwydd y lleng. Mae 'na ansicrwydd ynglŷn ag ystyr y teitl Valeria: efallai ei fod yn golygu "gwerth milwrol neu arwrol"; mae rhai haneswyr yn awgrymu cysylltiad â'r bobl Valeria, neu â'r eryr du. O tua O.C. 62 ymlaen roedd y lleng â'i phencadlys yn Deva (Caer) ac yn gyfrifol am Ogledd Cymru.
Gweler hefyd
- Bovium
- Deva Victrix