Lithograffeg
Proses brintio ar wyneb gwastad yw lithograffeg[1] neu faenargraffiad[2] sydd yn manteisio ar y ffaith na ellir cymysgu sylweddau seimllyd ac olewaidd â dŵr. Caiff yr arwyneb ei drin mewn modd sy'n peri i'r hyn y bwriedir ei brintio dderbyn inc a'r gweddill yn ei wrthod. Yna argraffir y llun ar bapur gan ddefnyddio gwasg arbennig i greu print cain, neu ar silindr rwber mewn achos printio masnachol.
Hanes
Dyfeisiwyd y broses yn 1796 gan Alois Senefelder ym München, yr Almaen. Defnyddiodd galchfaen mandyllog, felly'r enw Almaeneg Lithographie o'r geiriau Groeg λίθος (líthos, "carreg") a γράφειν (gráphein, "ysgrifennu"). Ni ddaeth y broses yn hysbys nes 1818, pan gyhoeddodd Senedfelder Vollständiges Lehrbuch der Steindruckerey ("Cwrs Cyflawn mewn Lithograffeg").[3] Bellach, defnyddir platiau metel neu blastig yn y broses fasnachol yn hytrach na charreg.
Cyfeiriadau
- ↑ lithograffeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
- ↑ maenargraffiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Lithography. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
Darllen pellach
- F. H. Man, Artists' Lithographs: A World History (1970).
- J. Pennell a E. Pennell, Lithographs and Lithographers (1915).
- V. Strauss, Lithographers Manual (2 gyfrol. 1958).
- W. Weber, A History of Lithography (1966).