Llanddeiniolen
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 5,072, 4,881 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,103 ha |
Cyfesurynnau | 53.2°N 4.2°W |
Cod SYG | W04000070 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanddeiniolen[1][2] ( ynganiad ). Saif ym mryniau Arfon, ar y B4366, 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caernarfon a thua'r un pellter i'r de-orllewin o ddinas Bangor.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Yr eglwys
Mae eglwys bresennol Llanddeiniolen yn dyddio o 1843 ond yn ymgorffori rhan o'r hen eglwys yn cynnwys hen fedyddfaen garreg ddyddiedig 1643 a chofeb i'r hen reithor Robert Wynne (m. 1730). Mae'n gysegredig i'r sant Ddeiniolen, mab Deiniol Sant. Dywedir iddo sefydlu'r eglwys yn 616 ar ôl ffoi i'r ardal o fynachlog Bangor Is-Coed yn sgîl Brwydr Caer.
Ym 1857 cysegrwyd Eglwys Crist, Llandinorwig, ar ymyl pentref Deiniolen. Ariannwyd gan Thomas Assheton Smith, perchennog chwarel Dinorwig.[5]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Pobl o Landdeiniolen
- Robert Ellis, Ysgoldy (1808-1881), gweinidog a hanesydd Methodistiaeth Arfon [2]
- Erasmus Jones (1817-1909), awdur a gweinidog
- William John Gruffydd (1881–1954) neu W. J. Gruffydd, ysgolhaig, bardd, awdur, golygydd Y Llenor (1922-55), a'r Aelod Seneddol olaf dros sedd Prifysgol Cymru (1943-1950) [3]
- Gwenlyn Parry (1932-1991) dramodydd Cymreig
Ysgrif o’r papur bro
- DARLUN yw hwn [4] o fuarth Y Gors, Llanddeiniolen, yn fuan ar ôl troad y ganrif. Mesur ar draws can acer oedd y fferm, o fawndir du, a chwarter y rheiny yn dir âr, ac addas i dyfu tatws a grawn. Roedd y gweddill yn gorsdir tonnenog, yn llawn migwyn, a chwrlid, lafrwyn [sic], a phlu'r gweunydd. Erbyn fy amser i yn y dau a'r tri degau, doedd fawr newid wedi bod yn y dulliau. Roedd y pren rhaffau, a'r manjiar a'r delyn a'r corddŵr, a'r noe, yr og biga, a'r cambran yn dal mewn grym, a'r trymwaith yn cael ei wneud gan yr olwyn ddŵr a'r ceffylau. Roedd yna enwau ar y caeau yr adeg honno. Weirglodd Bifan, lle roedd yna ddarn gwndwn a rhos, a maen mawr yn ei chanol lle byddai'r gwartheg yn cosi, a chaffaeliad i raffu ebolion a'u dysgu i rensio.
- Tu draw iddi roedd Cors Tan Rardd; mynwent anifeiliaid. Roedd yr hen bobol wedi bod yn cloddio yno hefyd am danwydd, ac yr oedd y tyllau rheiny yn llenwi hefo dŵr gan adael ynysoedd bach yn y canol lle byddai'r hwyaid gwylltion yn nythu. Yn y fan honno mae yna arian daear hefyd; dau biseraid o sofrenni aur dan gladd ers tuag amser fy hen daid a nain, Morgan a Phoebe Williams. Maen nhw wedi syrnud erbyn hyn fel mae popeth yn y mawn. Roedd yna dwll yn y Gors Fawr hefyd lle bydden ni'n sglefrio yn y gaeaf ac ar nosweithia' mawr byddai'r cŵn dŵr yn dod i fyny'r ffosydd mawn ar ôl yr ieir a'r gwyddau. Roedd yna weirglodd wrth y tŷ o'r enw y Bonc Bach, lle roedd y ffynnon wedi ei chloddio fel ogof dan godiad tir. Roedd yna ddraenen wen fawr wedi ei gosod yn ei hymyl i gadw gwres yr haul oddi ar y dŵr. Tu draw, roedd yna lain o'r enw Clwt Gaseg a Chyw, lle byddai'r cesig a'r cywion yn cael eu hymneilltuo ddechra'r haf oddi wrth yr anifeilaid eraill i gael cyfle iawn i fagu. Pan oedd yr haul yn isel, nos a bore, roedd yna olion cefna gwenith i'w gweld yn y fan honno ers amser y degwm. Yn gyfochrog roedd weirglodd Ty Hen - lle da i godi sgwarnog. Roedd yna afon fach glir yn rhedeg trwyddi a honno byth yn sychu yn yr haf poetha am fod yna ddŵr codi ar ei chwrs. Ar ei glan, yn Weirglodd Pant, roedd murddyn Ty Hen, a fyddai'n cael ei ddefnyddio yn houwal drolia gan fy nhaid. Roedd yno fwgan hefyd yn ysgwyd y carwdenni ganol nos.
- Ar yr ochr ddwyreiniol ar y terfyn roedd yna boncan eithin, Ponc yr Ynys Wen. Byddai yn cael ei thanio yn dymhorol er mwyn cael poethwel i ffaglu o dan y popty i grasu bara. Rhwng y ddau le roedd yna lôn fach gul wedi ei gwalio yn uchel. Ar hyd honno roedd y trolia yn symud rhwng Dinorwig a'r Felinheli. Ei henw oedd Lon Clechydd.Roedd yna dri cae arall ar derfyn a Beudy Sion Dywyll; Bryndu Bach, a Mawr, a Bryndu Twll, a thu ôl i'r beudai roedd Cae lloia, lle byddai'r lloia bach yn cael eu troi allan yn y gwanwyn ar ôl bod ym mwllwch y beudy drwy'r gaea. Roeddent mor hurt ar ôl dod i'r golau, nes yr oedd angen eu cadw ar dennyn am awr neu ddwy rhag iddynt ruthro ar eu pennau i'r waliau ac andwyo eu hunain.
- Roedd yna deirw drwg yno hefyd bob amser, am fod yna, meddai rhai - garreg ateb yng nghefn y tŷ gwair. Ac yr oedd yn rhaid llyffetheirio a mygydu rhai ohonynt. Roedd fy ewythr Ellis - a aeth yn gaucho i'r Ariannin, ac yn ddiweddarach i ffarmio defaid i New South Wales, ac a laddwyd hefo'r Awstraliaid ar y Somme yn 'Hangard Woods' - roedd o yn dod heibio i'r Cyfar Main ar y Gors Ucha ar ryw orchwyl a chryman yn ei law, pan ddaeth y tarw o rywle a throi arno. Taflodd y cryman a'i daro yn ei egwd nes torri cymal ar ei ar, a syrthiodd i lawr fel tarw Sbaen. Clywais fy nhad yn dweud fel y darfu fy nhaid wedyn ei ladd wrth olwyn y drol.
- Mae yna lwybrau difyr yn mynd ar draws y corsydd le byddai cariadon yn crwydro fraich ym mraich a dwsinau o drigolion y broydd yn mynd ar Sul y Blodau hefo bwnsieidiau o Gennin Pedr tros y Cae Cam i lawr i Laniolan. Mae yna un arall yn mynd ar draws i lôn y Rhydau heibio i'r Gamfa Bum Munud lle byddai aml un yn eistedd ar noson falmaidd o haf yn dal pen rheswm, neu naddu ffyn yr un fath a Thomos Owen, Ty Newydd, a'i fwstas wedi ei wacsio yn ddau bigyn fel RSM.
- "Gwranda," fyddai o'n ddweud gan bwnio ffyral ei ffon i fogal rhywun, "mae gin i stori fach i ddeud wrthat ti . . ."[9]
Hynafiaethau
- Dinorwig (neu Ddinas Dinorwig) - Bryngaer tua milltir i'r de-ddwyrain o'r pentref a gysylltir â'r Ordoficiaid
- Ffynnon Cegin Arthur - hen ffynnon â dŵr meddyginiaethol
- Carnedd Glyn Arthur - cylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig
- Castell Llanddeiniolen, sef hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol tua 2 kilometr i'r dwyrain o'r pentref.
Cyfeiriadau
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Eglwys Llandinorwig, Deiniolen". HistoryPoints.org. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Di-enw a di-ddyddiad, o Eco’r Wyddfa ac a godwyd i Fwletin Llên Natur rhifyn 50 [1]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr