Lliw primaidd
Y lliwiau cynradd a elwir hefyd yn lliwiau cysefin yw'r lliwiau na ellir eu cynhyrchu trwy gymysgu lliwiau eraill. Y lliwiau cynradd mewn celf yw coch, melyn a glas. Gellir ffurfio pob lliw pur trwy gymysgu lliwiau cynradd mewn gwahanol gyfrannau. Penderfyniad dynol yw hyn.
O ran golau, ffiseg a ffisioleg a gwyddoniaeth cyfeirir at y lliwiau cynradd fel glas, gwyrdd a choch a ddewisir fel lliwiau cynradd wedi eu seilio ar symptomau yn retina'r llygad. Gall unrhyw liw arall, lliwiau eilradd neu is-liwiau gael eu creu wrth gymysgu'r lliwiau yma.
Biolegol
Dydy lliwiau cynradd ddim yn cysyniad ffisegol wedi'i reoli gan olau ond yn hytrach yn gysyniad biolegol yn ddibynnol ar ymateb ffisiolegol y llygad dynol i olau. Yn fras, mae golau ar sbectrwm di-derfyn o donfeddi, sy'n golygu, mewn gwirionedd bod dewis di-bren-draw bron o liwiau. Ond mae'r llygad dynol dim ond yn cynnwys tri math o ffotodderbynyddion a elwir yn conau. Mae'r rhain yn ymateb i donfeddi sbesiffig o goch, gwyrdd a glas golau. Mae pobl a rhywogaethau eraill sy'n meddu ar y tri math o gonau yma yn cael eu galw trilliw neu drigromatig.
Creu lliwiau mewn dylunio graffig
Mae dwy ffordd wahanol i gymysgu lliwiau ym maes celf a dylunio graffig, sef yn ychwanegol (additive) neu yn tynnol (subtractive). Mae'r ddau ddull yn defnyddio lliwiau cynradd.
- Ychwanegol - y lliwiau ychwanegol yw coch, gwyrdd a glas. Defnyddir yr ychwanegol, e.e. mewn sgriniau teledu a chyfrifiadur. Lliw allbynnol y cyfrwng (sgîn) mewn cymysgu ychwanegol yw du. Po fwyaf o liw a ychwanegir y mwyaf lliwgar bydd y lliw a arddangosir.
- Tynnol - y lliwiau tynnol yw majenta, melyn a cyan. Defnyddir ar gyfer argraffu lliw ar bapur a chyfryngau tebyg. Yn y system dynnol bydd y cyfrwng (e.e. papur) yn wyn. Po fwyaf o liw a ychwanegir, y tywyllaf fydd y canlyniad. Y system dynnol yw'r un sy'n sail i'r system CMYK a ddefnyddir yn y diwydiant dylunio graffig.
Celf
Daw ymdriniaeth o liwiau a lliwiau cynradd o bwys mawr yn y byd celfyddydol. Creau'r mudiad avant-garde y grŵp De Stijl o'r Iseldiroedd mewn dim ond defnyddio lliwiau cynradd (a hefyd du, gwyn a llwyd) yn eu gwaith gan mai dyna oedd gwir liwiau handofol heb ymyrraeth ychwanegolion. Roeddynt am dadwneud unrhyw beth oedd yn lefethair ar symlrwydd a gwir natur goddrych.
Oriel
-
Llyfryn lliwiau cynradd mewn argraffdy
-
Composition décentralisée gan Theo van Doesburg, 1924, Solomon R. Amgueddfa Guggenheim, Efrog Newydd, cymynrodd Richard S. Zeisler, 2007