Llyfrgell Bodley
Math | llyfrgell academaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thomas Bodley ![]() |
Agoriad swyddogol | 1602 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Bodleian Libraries ![]() |
Lleoliad | Rhydychen ![]() |
Sir | Lloegr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.754°N 1.2551°W ![]() |
Cod OS | SP5155006415 ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Thomas Bodley ![]() |
Manylion | |
Llyfrgell Bodley yw llyfrgell bwysicaf Prifysgol Rhydychen. Mae'n cynnwys nifer fawr o lawysgrifau prin ynghyd â chasgliad helaeth o lyfrau printiedig cynnar.
Sefydlwyd y llyfrgell wreiddiol yn 1409 a chafodd ei hatgyweirio a'i helaethu gan Syr Thomas Bodley rhwng 1598 a 1602. Er 1610 mae'n un o'r llyfrgelloedd yng ngwledydd Prydain sydd â'r hawl i dderbyn copi rhad ac am ddim o bob llyfr a gyhoeddir yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Erbyn heddiw mae tua 3 miliwn o gyfrolau yn y llyfrgell.
Ymhlith y cyfrolau Cymreig a Chymraeg ynddi mae Llyfr Coch Hergest, un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer y chwedlau Cymraeg Canol a elwir y Mabinogi, ynghyd â thestunau rhyddiaith a barddoniaeth eraill.