Llyn Balaton
| Math | rift lake, geographical small region of Hungary, llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 592 km² |
| Uwch y môr | 104 metr |
| Cyfesurynnau | 46.85°N 17.72°E |
| Dalgylch | 5,181 cilometr sgwâr |
| Hyd | 78 cilometr |
| Statws treftadaeth | safle Ramsar, Natura 2000 site |
| Manylion | |

Llyn mawr yn Hwngari yw Llyn Balaton. Mae'n gorwedd yng ngorllewin y wlad, tua 100 km i'r de-orllewin o'r brifddinas, Budapest. Dyma'r llyn mwyaf yn Hwngari a Chanolbarth Ewrop i gyd. Mae'n llyn o ffurf led hirsgwar a chanddo arwynebedd o 598 km sgwar (231 milltir sgwar). Mae camlas yn cysylltu'r llyn ag un o ledneintiau Afon Daniwb.
Ar ei lannau ceir nifer o winllanoedd sy'n cynhyrchu gwinoedd enwocaf Hwngari. Mae'n ardal boblogaidd gan dwristiaid ers blynyddoedd a cheir nifer o drefi a phentrefi gwyliau ar lan y llyn.