Llyn Ontario
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA ![]() |
Sir | Ontario, Efrog Newydd ![]() |
Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America ![]() |
Arwynebedd | 18,529 km² ![]() |
Uwch y môr | 74.1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 43.7289°N 78.1064°W ![]() |
Dalgylch | 690,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 311 cilometr ![]() |
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Ontario (Saesneg: Lake Ontario). Daw'r enw o'r iaith Huron ontarío, yn golygu "llyn mawr". Ef yw'r lleiaf o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, er ei fod yn fwy na Llyn Erie o ran y crynswth o ddŵr ynddo. Saif Llyn Ontario ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd a rhan o'r de mae'n ffinio ar dalaith Ontario, Canada, ac yn y de ar dalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 19,529 km2 a'i hyd yn 388 km.
Llifa Afon Niagara i'r llyn o Lyn Erie, ac mae Afon St Lawrence yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Wolfe. Ymhlith y dinasoedd ar lan y llyn mae Toronto a Hamilton ar ochr Canada a Rochester ac Oswego, ar ochr yr Unol Daleithiau.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/Great_Lakes_Lake_Ontario.png/220px-Great_Lakes_Lake_Ontario.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8d/Lake_Ontario_3859.jpg/240px-Lake_Ontario_3859.jpg)