Llysiau'r cwlwm

Llysiau'r cwlwm
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Boraginales
Teulu: Boraginaceae
Genws: Symphytum
Rhywogaeth: S. officinale
Enw deuenwol
Symphytum officinale
L.

Llysieuyn blodeuol gwyllt, fel arfer, ydy llysiau'r cwlwm, cyfardwf neu comffri (Lladin: Symphytum officinale, Saesneg: Comfrey). Maent yn tyfu tua 10 hyd at 30 cm mewn uchder.

Rhinweddau meddygol

Fel mae'r enw'n ei awgrymu, mae'r llysieuyn bychan hwn yn medru 'clymu' esgyrn, hynny yw, eu gwella pan gânt eu torri. Gall hefyd helpu gyda'r gwynegon (neu gricmala), gwythienwst (neu 'phlebitis'), toriad yn y croen, neu dorthenni. Mae'r gwreiddyn yn cael ei gratio a'i gymysgu mewn menyn neu olew a'i roi ar y croen er mwyn trosglwyddo'i olewau hanfodol a phriodweddau iachaol.[1]

Cyfeiriadau

  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd