Lombok
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,352,988 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Swnda Lleiaf ![]() |
Sir | Gorllewin Nusa Tenggara ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,435 km², 4,514.11 km² ![]() |
Uwch y môr | 294 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor India ![]() |
Cyfesurynnau | 8.565°S 116.351°E ![]() |
Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.
Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0f/Rinjani_volcano_satellite.jpg/250px-Rinjani_volcano_satellite.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/29/Gunung_Rinjani_from_Gili_Air_1.jpg/220px-Gunung_Rinjani_from_Gili_Air_1.jpg)