Lwsiffer
![]() | |
Enghraifft o: | duwdod Rhufeinig, angel o fewn Iddewiaeth, angels in Christianity, angel syrthiedig ![]() |
---|---|
Enw brodorol | Lucifer ![]() |
![]() |

Daeth yr enw Lwsiffer (Lladin: Lucifer) o'r geiriau Lladin lucem ferre, "cariwr golau", a gyfeiriai at y seren fore (hefyd "seren ddydd") sy'n rhagflaenu'r wawr sy'n dod â goleuni i'r byd. Erbyn heddiw mae'r enw yn cyfeirio at y Diafol yn sgil hen ddehongliad o'r adnod Feiblaidd a geir yn Eseia 14:12:
- "O fel y syrthaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd."[1]
Yn y fersiynau Lladin o'r Beibl, sef y Fwlgat, ceir yr enw "Lucifer" yn lle "seren ddydd" y Gymraeg. Yn yr Hebraeg wreiddiol ceir הֵילֵל, helel, "yr un disglair". Y gred ymhlith Cristnogion oedd bod yr adnod yn cyfeirio at gwymp y Diafol, ac fel canlyniad daeth yr enw Lwsiffer yn gyfystyr â'r enw Satan. Erbyn hyn mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn credu mai at frenin o Fabylonia y cyfeirir yn yr adnod hon.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Y Geiriadur Beiblaidd, Hughes a'i Fab.