Lyra
Un o'r 88 cytser seryddol yw Lyra, neu'r Delyn, cytser eithaf bach yn y rhan ogleddol o'r wybren. Vega yw'r seren ddisgleiriaf.[1]
Mae Lyra yn gytser clasurol gafodd ei gynnwys ar restr 48 cytser yr hen athronydd Groeg Ptolemi. Ym mytholeg glasurol roedd Lyra yn delyn a ganwyd gan Orpheus.[2]
Mae Lyra'n un o'r 88 cytser swyddogol mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol yn eu cydnabod, a Lyr yw'r talfyriad swyddogol yr Undeb. Lyrae yw'r ffurf Lladin genidol y cytser sy'n cael ei ddefnyddio gyda llythyren Roeg i greu enwau rhai sêr yn ôl cyfundrefn enwi yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer.[1]
I'r llygad noeth, mae'r cytser yn cael ei ddominyddu gan Vega, neu Alffa Lyrae (α Lyr), un o'r sêr disgleiriaf yn yr holl wybren. Gyda dosbarth spectrol o A0V, mae lliw gwyn neu las-gwyn gan Vega., gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 0.03.[3][4][5]
Mae Beta Lyrae (β Lyr), hefyd Sheliak, yn seren ddeuol gyda'r ddwy seren mor agos mae nwy yn trosglwyddo o un i'r llall. Seren luosg yw Epsilon Lyrae (ε Lyr), gyda dau gwrthrych i'w weld trwy delesgop bach amatur. Ond mae telesgopau ychydig mwy yn dangos bod y ddau eu hunain yn ddeol.[1][5]
Lleolir Messier 57, neu Nifwyl y Fodrwy, yn Lyra, nifwl planedol adnabyddus a grewyd gan nwy sy wedi'i chwythu oddi wrth hen seren esblygedig.[1]
Mae'r clwstwr globylog Messier 56 i'w weld yn Lyra.[1]
Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook (yn Saesneg). Efrog Newydd: Dover Publications, Inc., tud. 1131–1178. ISBN 0-486-23568-8 (Cyfrol 2.)
- ↑ Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings (yn Saesneg). Efrog Newydd: G. E. Stechert, tud. 280–284. URL
- ↑ Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory. (4ydd argraffiad) (HR 7001) (Yn Saesneg.)
- ↑ Cronfa Ddata SIMBAD. Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Adalwyd ar 18 Mawrth 2017. (Yn Saesneg.) Chwiliad am Vega yn adnodd Simbad.
- ↑ 5.0 5.1 IAU Catalog of Star Names (2016). Adalwyd ar 23 Ebrill 2017. (Catalog swyddogol enwau traddodiadol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
|