Môr Aral
![]() | |
Math | cynlyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Môr Canoldir ![]() |
Sir | Casachstan ![]() |
Gwlad | Casachstan, Wsbecistan ![]() |
Arwynebedd | 8,303 km² ![]() |
Uwch y môr | 31 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 45°N 60°E ![]() |
Dalgylch | 690,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 428 cilometr ![]() |
Môr neu lyn yng Nghanolbarth Asia yw Môr Aral (Casacheg: Арал теңізі, Aral tengizi, Rwseg: Аральскοе мοре, Tajik/Perseg: Daryocha-i Khorazm, Llyn Khwarazm). Mae ei ran ogleddol yng Nghasachstan a'r rhan ddeheuol yn Karakalpakstan, rhanbarth o Wsbecistan. Ystyr yr enw yw "Môr yr Ynysoedd"; ceir dros 1,500 o ynysoedd ynddo,
Ers y 1960au mae arwynebedd Môr Aral wedi bod yn lleihau, wedi i gwrs yr afonydd Amu Darya a Syr Darya sy'n llifo iddo gael eu newid gan yr Undeb Sofietaidd ar gyfer dyfrhau cnydau. Erbyn 2004, nid oedd ganddo ond 25% o'i arwynebedd gwreiddiol, ac roedd lefel yr halen yn ei ddyfroedd wedi cynyddu bron bum gwaith, gan ladd llawer o'r anifeiliaid a phlanhigion ynddo. Mae llygredd yn broblem fawr hefyd. Ar hyn o bryd mae ymdrechion yng Nghasachstan i achub rhan ogleddol y llyn.

