Môr Chukchi

Môr Chukchi
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
GwladRwsia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau69.51°N 171.29°W Edit this on Wikidata

Un o foroedd ymylol Cefnfor yr Arctig yw Môr Chukchi (Rwseg: Чуко́тское мо́ре), sy'n gorwedd rhwng Rwsia a'r Unol Daleithiau. Mae'n terfynu yn y gorllewin gyda Culfor De Long, ger Ynys Wrangel, ac yn y dwyrain gan Pwynt Barrow, Alaska, gyda Môr Beaufort y tu hwnt i hynny. Mae Culfor Bering yn ffurfio ei derfyn deheuol ac yn ei gysylltu gyda Môr Bering a'r Cefnfor Tawel. Y prif borthladd yw Uelen yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka yn Nwyrain Pell Rwsia.

Enwir y môr ar ôl y bobl Chukchi, sy'n byw yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka. Ceir poblogaeth sylweddol o Eirth Gwyn yn yr ardal.

Lleoliad Môr Chukchi
Rhew ym Môr Chukchi
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.