Maesbury
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Oswestry Rural |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8167°N 3.0167°W ![]() |
Cod OS | SJ308256 ![]() |
Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Maesbury.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Oswestry Rural yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Yn ôl traddodiad mae pentref Maesbury yn cynnwys pum pentrefan: Ball, Gwernybrenin, Newbridge, Maesbury a Penisbury Marsh, er bod yr ardal bellach yn cynnwys Aston ac Woolston.
Ystyr y gair Cymraeg "maes" ydy "cae", sy'n dangos cysylltiad Cymraeg y pentref. Ceir gwreiddiau dyfnion yn y cysylltiad rhwng Cymru a Swydd Amwythig.[2]
Llyfryddiaeth
- F. A. Mason, A Little Bit of Shropshire: The Village of Maesbury, 1800-1930 (Yr awdur, 2001)

Cyfeiriadau
- ↑ British Place Names; adalwyd 26 Ebrill 2021
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; tud. 872