Maponos
Enghraifft o: | duw Celtaidd ![]() |
---|---|
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e6/Gretna_0003.jpg/200px-Gretna_0003.jpg)
Duw Celtaidd mae ei enw yn ymddangos ar arysgrifau yng Ngâl a gogledd Prydain oedd Maponos (ffurf Ladin Maponus). Credir mai'r duw hwn oedd sail y cymeriad Mabon fab Modron yn chwedl Culhwch ac Olwen. Roedd yn dduw yr helfa ac ieuenctid, ac roedd y Rhufeiniaid yn ei uniaethu a'r duw Apollo.
Ceir arysgrifau yn crybwyll Maponos yng Ngâl yn Bourbonne-les-Bains a Chamalières. Yng ngogledd Lloegr o gwmpas Mur Hadrian y ceir y nifer mwyaf o arysgrifau; fe'u ceir yn Brampton, Corbridge (Coria yn y cyfnod Rhufeinig), Ribchester (Bremetenacum Veteranorum yn y cyfnod Rhufeinig) a Chesterholm (Vindolanda yn y cyfnod Rhufeinig). Er enghraifft, mae'r arysgrif gan bedwar Almaenwr yn Brampton wedi ei gysegru i'r duw Maponos a numen yr ymerawdwr:
- Deo / Mapono / et n(umini) Aug(usti) / Durio / et Ramio / et Trupo / et Lurio / Germa/ni v(otum) s(olverunt) l(ibentes) m(erito)
Ymddengys yr enw "Maponos" mewn dau le yn yr Alban; Lochmaben a'r Clochmabenstane ger Annan, sydd efallai wedi deillio o Locus Maponi.
Llyfryddiaeth
- Anne Ross, Pagan Celtic Britain: Studies in Iconology and Tradition. (Llundain, 1967)
Gweler hefyd
- Mabon Mabon fab Modron
- Mabyn (mab Brychan, Brenin Brycheiniog yn y 5g
- Cymeriadau chwedlonol Cymreig
- St Mabyn (Pentref yng Nghernyw
- Modron (Cernyw)
- Llanfabon (Pentref ger Merthyr Tydfil)
- Rhiwabon ger Wrecsam
- Kermabon, Llydaw