Marcus Manilius
Marcus Manilius | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Manilius 1 g |
Bu farw | 1 g |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | bardd, llenor, astroleg |
Blodeuodd | 1 g |
Adnabyddus am | Astronomica |
Bardd Lladin oedd yn byw yn Rhufain yn ystod 1g oedd Marcus Manilius. Ni wyddys rhagor am fanylion ei fywyd. Ysgrifennodd y gerdd Astronomica ar bwnc seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth.
Yr Astronomica yw'r unig waith gan Manilius sy'n goroesi. Ysgrifennodd y gerdd addysg anorffen hon rhwng 14 a 27 OC. Pum llyfr sy'n goroesi – 4000 chweban i gyd.[1] Mae'r awdur yn ymdrin â'r sffer, sêr y Sidydd a chytserau eraill, cylchoedd mawr a chomedau yn y llyfr cyntaf; arwyddion y Sidydd a'r dodecatopus yn yr ail lyfr; y 12 man, Fortuna, amseroedd codi'r arwyddion yn Alecsandria, arglwydd y flwyddyn, ac hyd oes yn y trydydd llyfr; y decan, y monomoria, a daearyddiaeth astrolegol yn y pedwerydd llyfr, a'r sêr sefydlog sy'n codi gyda mannau'r ecliptig yn y pumed llyfr. Mae'n debyg taw ysgrifau Hermetig cynnar oedd ffynonellau Manilius, ac o bosib hefyd cyfieithiad Germanicus o Phaenomena gan Aratus.[2] Noda'r gwaith gan Ladin anarferol, cyfrifiadau a symiau ar ffurf penillion, a thuedd yr awdur i grwydro oddi ar y testun gan fydryddu ar bynciau mytholegol a moesol. Pwysleisia Manilius trefn ragluniaethol y byd a rhesymu dwyfol.[1]
Gwybodaeth astrolegol elfennol yw hyn i gyd, ac nid yw'r gerdd yn galluogi'r darllenydd i ddeall neu lunio horosgop. Gwerthfawroga'r gerdd yn fwy gan ysgolheigion clasurol o safbwynt llenyddol ac athronyddol. Manilius oedd y bardd Rhufeinig olaf o'r llu didactig, ac efelychodd arddull ac athroniaeth Lwcretiws, Fferyllt ac Ofydd.[1] Cyfuniad unigrwyd o athroniaeth glasurol, myth, yr epig, hanes Rhufeinig, a barddoneg ddidactig yw'r Astronomica. Tynna Manilius ar ddylanwadau Stoicaidd, Platonaidd, Pythagoreaidd, ac ocwlt. Ceir hefyd penillion difyr wrth iddo bortreadu cymeriadau a'u sygnau.[3]
Ansicr yw dylanwad Manilius ar sêr-ddewiniaeth yr Henfyd; ni chafodd ei waith ei ddarllen gan astrolegwyr pwysig Rhufain.[2] Enillodd yr Astronomica ei enw yn Ewrop wedi i'r dyneiddiwr Poggio Bracciolini ei ailddarganfod adeg y Dadeni. Cyhoeddodd Syr Edward Sherburne gyfieithiad Saesneg o'r llyfr cyntaf gyda nodiadau ac atodiad ym 1675.[4] Cyhoeddodd A. E. Housman argraffiad anodiadol o farddoniaeth Manilius ar ddechrau'r 20g. Am oes cafodd yr Astronomica ei ddiystyru oherwydd natur y pwnc a safon iaith yr awdur. Bellach gwelir yn un o brif gerddi addysg oes Awgwstws, ac yn debyg i De Rerum Natura (Lwcretiws) a'r Georgics (Fferyllt) yn y modd mae'n llunio damcaniaeth o natur y byd a phwrpas y profiad dynol gan bwysleisio effaith y sêr ar fywyd y Ddaear.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Marcus Manilius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2016.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Manilius, Marcus" yn Complete Dictionary of Scientific Biography (2008). Encyclopedia.com. Adalwyd ar 24 Awst 2016.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) D. Mark Possanza. "Review: Katharina Volk, Manilius and his Intellectual Background" yn Bryn Mawr Classical Review (18 Hydref 2011). Adalwyd ar 24 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) The Sphere of Marcus Manilius[dolen farw] (Llyfrgell Whipple, Prifysgol Caergrawnt). Adalwyd ar 24 Awst 2016.
Darllen pellach
- Josèphe-Henriette Abry. "Manilius and Aratus: two Stoic poets on stars" yn Leeds International Classical Studies (2007).
- Steven J. Green a Katharina Volk. Forgotten Stars: Rediscovering Manilius' Astronomica (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2011).
- Katharina Volk. Manilius and his Intellectual Background (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009).
Dolenni allanol
- (Lladin) Testun Astronomica ar wefan The Latin Library
- (Saesneg) Testun The Sphere of Marcus Manilius[dolen farw] gan Syr Edward Sherburne