Maurice Ravel
Maurice Ravel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Joseph Maurice Ravel ![]() 7 Mawrth 1875 ![]() Ciboure ![]() |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1937 ![]() o neurological disorder ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd, pianydd, cyfansoddwr ![]() |
Adnabyddus am | Daphnis et Chloé, Boléro, Miroirs, Piano Concerto, Gaspard de la nuit ![]() |
Arddull | opera, cerddoriaeth glasurol, expresionism in music ![]() |
Mudiad | expresionism in music ![]() |
Tad | Pierre-Joseph Ravel ![]() |
Mam | Marie Ravel ![]() |
Llinach | famille Ravel ![]() |
Gwobr/au | Prix de Rome, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cyfansoddwr o Ffrainc oedd Maurice Ravel (7 Mawrth 1875 - 28 Rhagfyr 1937).
Bywgraffiad
Ganwyd Ravel yn Ziburu yn nhalaith Lapurdi yn Ngogledd Gwlad y Basg.
Ym 1889 aeth i Conservatoire Paris, lle bu'n astudio cerddoriaeth gyda Charles de Bériot, Émile Pessard, André Gedalge, a Gabriel Fauré. Yn 1893, cyfarfu ag Erik Satie, a dylanwadwyd arno gan ei gerddoriaeth. Oherwydd ei arddull unigryw o ysgrifennu cerddoriaeth, cafodd drafferth ennill ysgoloriaeth y Prix de Rome yn y Conservatoire, ac ym 1905 bu’n rhaid iddo adael.
O 1920 roedd yn byw yn Montfort-l'Amauryn yn Yvelines. Ym 1928 gwnaeth daith bedwar mis trwy'r Unol Daleithiau a Canada, ac yn yr un flwyddyn bu yn Lloegr er mwyn derbyn doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Rhydychen. O 1933 hyd ddiwedd ei oes, bu'n dioddef salwch ar yr ymennydd.
Cysylltiad â Gwlad y Basg
Roedd y cerddor hwn, a oedd wedi ennill clod yn rhyngwladol, yn siarad Basgeg[1] ac yn aml yn mynegi cysylltiad â gwlad ei eni.
Gwaith cerddorol
Ar gyfer y Piano
- Sérénade grotesque (1893)
- Menuet antique (1895)
- Pavane pour une infante défunte (1899)
- Jeux d'eau (1901)
- Sonatine (1905)
- Miroirs (1905)
- Gaspard de la nuit (1908)
- Ma Mère l'Oye (1908)
- Valses nobles et sentimentales (1911)
- Le Tombeau de Couperin (1917)
Ar gyfer cerddorfa
- Rapsodie espagnole (1907)
- La Valse (1920)
- Tzigane (1924)
- Boléro (1928)
- Concerto pour la main gauche (1930)
- Concerto en sol (1931)
Ar gyfer y llais
- Shéhérazade (1903)
- Histoires naturelles (1906)
- Trois poèmes de Mallarmé (1913)
- Mélodies hébraïques (1914)
- Chansons madécasses (1922)
- Don Quichotte à Dulcinée (1932)
Ballet
- Daphnis et Chloé (1909-1912)
Opera
- L'Heure espagnole (1907-1911)
- L'Enfant et les Sortilèges (1919-1925)
Cantatau
- Myrrha (1901)
- Alcyone (1902)
- Alyssa (1903)
Cyfeiriadau
- ↑ "Quelles étaient les relations de Ravel avec le Pays Basque ?". BasKulture. Cyrchwyd 2021-05-10.